Lleoliad:
Merthyr Tudful
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£50776.01

Datblygwyd Rhaglen Cysylltu i Lesiant o ganlyniad i argyfwng COVID 19. Prif nod y cynllun yw cynorthwyo pobl sydd yn agored i niwed ac sydd yn teimlo eu bod yn ynysig / neu yn wael eu hiechyd neu’n dioddef caledu i gyflawni Llesiant.  Mae Cydlynydd Gwirfoddol yn recriwtio gwirfoddolwyr cymunedol er mwyn cynorthwyo â chludo pobl i’r Ganolfan, lle y mae hynny’n addas a darparu gwasanaethau llesiant rhithiol. Hefyd, gan fod nifer o bobl wedi dioddef gostyngiad yn eu hincwm, bydd y Cydlynydd Gwirfoddol yn cadw trosolwg ar bantri cymunedol a fydd yn ymweld â wardiau gwledig gan ddod â bwyd FareShare i aelodau ynysig o’r gymuned a’u cynorthwyo i gynnal diet iach.

Mae’r prosiect hwn yn cynnal llesiant trwy sefydlu sylfaen o wirfoddolwyr a chynorthwywyr all, pan fydd cyfyngiadau COVID yn caniatau hynny, ddod â hwy i’r Ganolfan Llesiant yn Gellideg a gweithredu pantri symudol mewn wardiau gwledig.      

Mae pob gwirfoddolwr yn destun archwiliad sgiliau er mwyn pennu eu gofynion hyfforddi. Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yn cael eu hyfforddi i gynorthwyo plant ac oedolion sydd yn agored i niwed  ac yn derbyn gwersi sgiliau gyrru ychwanegol lle y bydd hynny’n berthnasol. Gwobrwyir gwirfoddolwyr â chredydau bancio amser. 

Gall darpar ddefnyddwyr y cynllun Cysylltu i Lesiant atgyfeirio eu hunain drwy gysylltu â Grŵp Sefydliad Gellideg neu gallant gael eu hatgyfeirio drwy weithwyr cymdeithasol neu gan ymarferwyr iechyd neu’r sector wirfoddol.  Heb raglen Cysylltu i Lesiant, ni fyddai preswylwyr sy’n teimlo’n ynysig ac mewn iechyd gwael yn gallu cyrchu’r gwasanaethau newydd sydd ar gael yng Nghanolfan Lesiant Gellideg nac ychwaith, y bwyd cymorthdaledig o’r pantri symudol.  

Mae Rhaglen Cysylltu i Lesiant yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig 2014 – 2020 a ariannir gan Gronfa yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a gan Lywodraeth Cymru. 

 
Cyfanswm Gwariant Cymwys Refeniw             £ 63,470.02
Uchafswm Cyfradd y Grant Refeniw                80%
Uchafswm y Grant Refeniw                              £ 50,776.01

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Harri Evans
Rhif Ffôn:
01685 725463
Email project contact