Lleoliad:
Dyffryn Wysg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39700.00

Nod y prosiect yw cymharu costau dau ddull o reoli chwyn mewn dwy uned garddwriaeth ar raddfa fechan sydd wedi cael eu rheoli’n organig. Mae Square Farm a Trealey Farm yn ffermydd organig cymysg ger Trefynwy sy’n tyfu amrywiaeth o lysiau.

Gan fod defnyddio chwynladdwyr wedi cael ei wahardd ar systemau sy’n cael eu rheoli’n organig, gallai offer robotig fod o fantais sylweddol mewn gweithgareddau cynnal a chadw cnydau, fel chwynnu. Mae’r chwynwyr hyn yn gyffredin mewn gwaith mwy o faint ond nid yw eu heffeithiolrwydd a’u hyfywedd ariannol, mewn sefyllfaoedd ar raddfa fechan, wedi cael eu dadansoddi.  Wrth arbrofi chwynwr robotig cyfrifiadurol rhwng y rhesi ar ddwy fferm, mae’r prosiect yn ceisio darganfod yr arbedion o ran costau llafur ac amser o’i gymharu â’r dulliau llafur-ddwys presennol o chwynnu gyda llaw.

Ar y ddau safle, bydd gwahanol driniaethau yn cael eu cymharu drwy roi’r ddau dechneg amaethu gwahanol ar waith mewn gwahanol fathau o gnydau:

  • Chwynnu â llaw gyda chnwd llysiau - Rheolydd 
  • Chwynnu robotig yn ôl y llygad gyda chnwd llysiau

Bydd y triniaethau hyn yn digwydd i ddechrau ar ôl hau’r cnydau ac ar ôl gweld y chwyn cyntaf. Yna bydd y tyfwr yn chwynnu bob tua 3-4 wythnos, neu yn ôl twf y chwyn a’r pwysau, trwy gydol y tymor.

Ar ôl pob ‘digwyddiad chwynnu’, bydd niferoedd chwyn a rhywogaethau yn cael eu hasesu yngŷd ag ymnerth cnwd a’r niwed iddynt. Bydd yna ddadansoddiad cost a budd, er mwyn canfod maint y fferm/lefel y cynhyrchiant sydd ei angen er mwyn sicrhau bod defnyddio’r mecaneiddiad yn gost effeithiol, gan ystyried unrhyw effeithiau mae’r dulliau yn ei gael ar gynnyrch ac ansawdd y cnwd.

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Will John
Email project contact