Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£30100.00

Bydd cadwyni cyflenwi bwyd byr yn cael eu creu pan fydd ffermwyr yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr neu gyda chyn lleied â phosibl o werthwyr rhyngddynt. Maent yn dod yn gynyddol boblogaidd wrth i ddefnyddwyr ddymuno cael cynnyrch ffres a thymhorol ond hefyd fod eisiau gwybod o ble mae eu bwyd yn dod.  Maent yn cynnig dewis gwahanol i gadwyni bwyd hwy confensiynol lle mai ychydig iawn o rym bargeinio sydd gan ffermwyr bach yn aml ac ni all y defnyddiwr olrhain y bwyd at gynhyrchwr penodol nac ardal leol.

Sefydlodd grŵp Cig Eidion Mynyddoedd Cambrian gadwyn gyflenwi fer llwyddiannus yn 2015 gyda chigydd arlwyo sylweddol sy’n darparu gwestai a bwytai moethus. Mae’r pump busnes fferm sydd yn y grŵp wedi gweithio’n galed i fod yn y sefyllfa hon a’u gobaith yw datblygu’r grŵp ymhellach er mwyn rheoli ac ehangu’r farchnad mewn modd cynaliadwy. Trwy’r prosiect bydd y ffermwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen i gynnal y gadwyn gyflenwi fer yn y tymor hir trwy gymryd rhan mewn nifer o weithdai a fydd yn edrych ar y meysydd canlynol:

  • Rheoli perthynas cwsmeriaid
  • Hyrwyddo llysgenhadol / cynnyrch
  • Deall gofynion y defnyddiwr terfynol
  • Bwtsiera a phrosesu cig coch
  • Chwarae rôl effeithiol yn y gadwyn gyflenwi
  • Rheoli’r cyfryngau cymdeithasol
  • Rheoli’r wefan
  • Anfonebu, datganiad treth incwm a gweinyddu

Bydd y grŵp wedyn yn defnyddio’r adnoddau y maent wedi eu datblygu i reoli eu cadwyn gyflenwi a’u dull a datblygu cysylltiadau gyda chwsmeriaid newydd posibl, marchnata eu cynnyrch eu hunain a rheoli eu gwefan eu hunain. Yn ogystal, bydd y prosiect hwn yn annog y genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr cynradd i ddatblygu eu sgiliau busnes ac annog hunangynhaliaeth.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau

Cyhoeddiad Technegol, Rhifyn 19 (Ionawr / Chwefror 2018): Datblygu Grŵp Cig Eid…

 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Emma Jones
Email project contact