Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
£40000.00

Disgrifiad o’r Prosiect

Prosiect peilot i weld a ellir darparu'r gwasanaeth anstatudol ond gwerthfawr hwn ar sail symudol heb y buddsoddiad cyfalaf a refeniw sylweddol sydd ei angen ar gyfer safle sefydlog, parhaol.

Disgwylir i ganlyniadau'r prosiect fod:

  • Cynnydd yng nghanran trigolion Conwy yn byw o fewn 20 munud o wasanaeth HRC.
  • Cynnydd yn y tunelli o wastraff cartref a ailddefnyddir o ardaloedd gwledig
  • Cynnydd yn y tunelli o wastraff cartref sy'n cael ei ailgylchu o ardaloedd gwledig
  • Llai o achosion o dipio anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig
  • Sefydlu canolbwyntiau cymunedol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau / swyddogaethau eraill y Cyngor
  • Hyrwyddo opsiynau cymunedol lleol ar gyfer ailddefnyddio / ailgylchu

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Mae adain Rheoli Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dod ynghyd â Prosiect Datblygu Gwledig Conwy Cynhaliol i dreialu gwasanaeth ailgylchu symudol.

Gyda rhai trigolion yn gorfod gwneud taith yno ac yn ôl o 50 milltir i'w depo ailgylchu agosaf, cymeradwyodd Grŵp Gweithredu Lleol Conwy Cynhaliol brosiect i dreialu cynnal gwasanaeth ailgylchu symudol ar gyfer trigolion Conwy Wledig.

Bydd y gwasanaeth wedi ei leoli mewn tri lleoliad ar draws yr ardal wledig – Cerrigydrudion ar y dydd Sul cyntaf bob mis; Glasdir, Llanrwst ar yr ail ddydd Sadwrn bob mis ac yna Llangernyw ar y trydydd dydd Sadwrn bob mis.

Bydd gwastraff y cartref fel dodrefn, plastig caled ac eitemau trydanol yn cael eu derbyn yn y canolfannau ailgylchu yn ogystal â gwastraff yr ardd a gwastraff y gellir ei ailgylchu. Ni allwn dderbyn gwastraff adeiladu neu DIY megis rwbel, pridd na phren.

Dywedodd y Cyng. Goronwy Edwards, cadeirydd y Grŵp Gweithredu Lleol, “Mae ein trigolion yn gorfod teithio naill ai i Fochdre neu Abergele os oes ganddynt eitemau swmpus y mae angen iddynt gael gwared arnynt. I rai o’n trigolion, gall hynny olygu taith yno ac yn ôl o fwy na 50 milltir. Prif amcanion y prawf hwn yw annog rhagor o bobl i ailgylchu’n gyfrifol a lleddfu tipio anghyfreithlon yn yr ardaloedd gwledig lle mae’n broblem gynyddol”.

Disgwylir i’r cynllun prawf dwy flynedd a hanner ddechrau ddydd Sadwrn 6 Hydref yng Ngherrigydrudion.

Yr heriau mwyaf a / neu'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y prosiect

Dywedodd Jim Espley, Rheolwr Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,

“Gobeithiwn fod y prosiect peilot hwn yn dangos y gellir darparu ein gwasanaethau ailgylchu a werthfawrogir yn fawl mewn modd symudol. Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau ynghylch a yw gwasanaeth symudol yn ddewis hirdymor a chynaliadwy i sicrhau ein bod yn gwasanaethu’r fwrdeistref sirol gyfan.”


I gael rhagor o wybodaeth am y canolfannau ailgylchu symudol, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Ela Williams
Rhif Ffôn:
01492 576 673
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.ruralconwy.org.uk