Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£1477.00

Disgrifiad o’r Prosiect

Bydd y prosiect yn treialu gwasanaeth dosbarthu presgripsiwn gwirfoddol ar gyfer y dalgylch am gyfnod o ddeuddeg mis. Rydym am recriwtio gyrwyr gwirfoddol ac ad-dalu'r costau milltiredd.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Gyda lleihad parhaus o argaeledd o wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, mae meddygfa Betws-y-Coed wedi penderfynu bod angen gwneud rhywbeth ynghylch hyn.

Mae nifer cynyddol o gleifion heb deulu, na gofalwyr na mynediad at drafnidiaeth yn gallu cyrraedd y feddygfa neu fethu â chasglu eu presgripsiynau.

Mae cael eu gadael heb feddyginiaeth yn arwain at ddirywiad yn eu hiechyd, cynnydd yn y galw ar feddygon teulu i gynnal ymweliadau cartref a phwysau ychwanegol ar nyrsys ardal, ynghyd â nifer cynyddol o dderbyniadau brys i’r ysbyty.

Mewn cyfarfodydd staff y feddygfa, awgrymwyd y gallai gwasanaeth cyflenwi presgripsiynau fynd i’r afael â’r broblem hon a gwella iechyd a lles y cleifion yn sylweddol.

Bu i feddygfa Betws y Coed fynd at Ela Fôn Williams, Swyddog Prosiect Diwylliant a Threftadaeth yn dilyn cais Ela am brosiectau i leihau arwahanrwydd ac amddifadedd mewn cymunedau gwledig.

Yr heriau mwyaf a / neu'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y prosiect

"Roeddem yn chwilio i gyllido prosiectau arbrofol ar raddfa fach a fyddai’n cefnogi cymunedau a dod â phobl o bob oed at ei gilydd.

Roedd y gwasanaeth cyflenwi presgripsiwn yn bodloni’r meini prawf ac wedi profi i fod yn llwyddiant mawr ac yn ased i’r gymuned wledig”

Meddai Ela.

Dywedodd Michelle Roberts, Rheolwr y Practis

“Roeddem yn falch iawn o glywed bod y cais yn llwyddiannus.

“Gobeithiwn ein bod wedi creu model llwyddiannus y gall meddygfeydd eraill eu defnyddio yn yr ardal wledig. Rydym yn awr eisiau annog gymaint o bobl â phosibl i ddefnyddio’r gwasanaeth.”

Mae tri gwirfoddolwr wedi eu recriwtio bellach ac yn cludo’r presgripsiynau yn llwyddiannus i 54 o unigolion, gyda’r cyflenwi yn digwydd ar ddydd Mercher.

Nid ar gyfer pobl hŷn yn unig mae’r gwasanaeth hon, ond i unrhyw un sydd ei angen, ar sail asesu anghenion.

Dywedodd un gwirfoddolwr, Mr Scarse,

“Rwy’n teimlo y gallaf roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned tra y gallaf yrru, rwy’n gobeithio bydd y cynllun yn annog eraill i wneud yr un fath ac efallai rhyw ddiwrnod byddaf angen y gwasanaeth yn y dyfodol a bydd yn galluogi i mi aros yn y pentref”.

Gobeithir y bydd mwy o feddygfeydd yn yr ardal wledig yn gallu defnyddio’r model ac yn annog gymaint o ddefnyddwyr â phosibl i ddefnyddio’r gwasanaeth a gynigir.

I gael rhagor o wybodaeth am Gonwy Cynhaliol, a’r Rhaglen Datblygu Gwledig – ewch i www.ruralconwy.org.uk neu cysylltwch â ni ar 01492 576673 neu conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu drwy'r rhaglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Ela Fôn Williams
Rhif Ffôn:
01492 576674
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk