Lleoliad:
Ynys Môn
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39940.00

Disgrifiad Prosiect

Mae’r baich o heintiau gydag ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cynyddu ledled y byd ac yn fygythiad difrifol iiechyd anifeiliaid a phobl. Mae’r prosiect hwn yn datblygu ymhellach ar yr ymchwil fydd yn newid arferion rheoli’r diadell, trwy wella maeth a hylendid yn bennaf, ac y gallai leihau’r angen am wrthfiotigau ond yn cynyddu cynhyrchiant ac yn cadw safon uchel o iechyd a lles anifeiliaid ar yr un pryd. Mae hefyd yn darparu cyflenwad bwyd iach a diogel mewn cyfnod o bryderu fod anifeiliaid cynhyrchu bwyd yn cyfrannu at ddatblygiad ymwrthedd pobl i wrthfiotigau.

Mae yna bosibilrwydd y bydd targedau byd-eang yn cael eu gosod er mwyn lleihau’r defnydd o wrthfiotigau (pob kg/pwysau anifail) mewn da byw sy’n cael eu trin i lefel a gytunir arni ym mhob gwlad. Hefyd, mae’n debygol y bydd cyfyngiadau ar ddefnyddio gwrthfiotigau mewn da byw sydd hefyd yn bwysig iawn i iechyd pobl. Bydd cymryd camau i leihau’r defnydd o wrthfiotigau nawr, yn ei gwneud hi’n haws i’w reoli pan fydd y targedau yn cael eu rhoi ar waith.

Amcanion y Prosiect:

  • Hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotigau er mwyn cadw effeithiolrwydd cyffuriau a rheoli costau.
  • Magu hyder ffermwyr o ran llunio dogn ac arferion rheoli, lleihau defnydd proffylactig o wrthfiotigau yn ystod ŵyna gan gynnal a gwella iechyd a lles.
  • Gwella maeth ac arferion rheoli er mwyn cynyddu egni, lleihau marwolaethau a lleihau buddsoddiad mewn pesgi.
  • Rhoi pŵer i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr i fabwysiadu dewis gwahanol i wrthfiotigau a’u helpu i fod yn fwy gwydn

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau:

(Tachwedd 2018): Gareth Thomas, Tregynrig:

 

Adroddiad (Gorffennaf 2018): Interim Report

 

(Mawrth 2018): Jack Foulkes, Marchynys:

 

Cyhoeddiad Technegol, Rhifyn 19 (Ionawr / Chwefror 2018): Lleihau’r defnydd o w…

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Emma Jones
Email project contact