Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£72000.00

Disgrifiad o'r prosiect:

Mae llifogydd yn ddinistriol i gartrefi, busnesau a seilwaith allweddol. Mae rheoli dalgylch afon yn chwarae rhan yn nifrifoldeb y llifogydd hyn. Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae mewn rheoli pridd a dŵr. Nod prosiect SWIM yw datblygu techneg newydd ar gyfer rheoli llifogydd drwy ddefnyddio cyfalaf naturiol ar raddfa tirwedd i leihau llifogydd mawr i lawr yr afon. 

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Trwy gynnwys gwirfoddolwyr a chymunedau, arweiniodd y prosiect at fanteision niferus. E.e. cyngor ar arfer gorau a phlannu gwrych ar gyfer myfyrwyr amaethyddiaeth, gwirfoddoli gweithredol, bioamrywiaeth gynyddol a lleihau llygredd gan arwain at well ansawdd dŵr.

Roedd y datrysiadau ar ffermydd yn fanteisiol tu hwnt i’r amgylchedd ac i fusnesau, gan leihau colli pridd a maethynnau. Bydd y gwaith cyfalaf yn y dalgylch yn cael ei wneud o dan brosiectau Cynllun Rheolaeth Gynaliadwy WISE a Cain a Nant Alan.  

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Dalgylchoedd bychain yn Ucheldiroedd Afon Hafren (Sir Drefaldwyn).

Her 

Pan mae glaw yn taro dalgylch afon, mae cyfran fawr ohono’n cyrraedd yr afon, gan fynd ag unrhyw lygredd ar y tir gydag ef. Mae pa mor gyflym mae’r dŵr yma’n cyrraedd ein hafonydd ni, a difrifoldeb yr effaith, yn dibynnu ar y rheolaeth ar y tir. Er enghraifft, bydd cywasgu pridd, lleihau coed a gwrychoedd, arwynebedd y gorchudd o gnwd yn cynyddu effaith llifogydd.  

Datrysiad 

Gall cyfalaf naturiol fel gorchudd o goed, pridd sy’n cael ei gynnal yn dda, ac ati, leihau effaith llifogydd i lawr yr afon. Drwy fodelu cyfalaf naturiol, gallwn adnabod yr ardaloedd ble gellir cynnal yr ymyriadau mwyaf cost-effeithiol. Drwy gynnwys cymunedau lleol e.e. sefydlu grwpiau gweithredu llifogydd lleol, a thrwy gynnal trafodaethau dwy ffordd gyda pherchnogion tir, roedd modd i bobl leol arwain y drafodaeth a chyfrannu at adnabod yr ardaloedd hynny ble gellir gwella cyfalaf naturiol ar y tir.   Mae’r prosiect yma wedi galluogi Ymddiriedolaeth Afon Hafren i wneud cais am gyllid yn y dyfodol i gynnal gwaith cyfalaf i leihau llifogydd.  

Budd

Drwy benderfynu ar y lleoliadau gorau ar gyfer technegau rheoli llifogydd naturiol e.e. plannu gwrych gan ddefnyddio modelu, roedd yr effaith yn werth da am arian ac yn cynnig llawer o fanteision. Drwy sefydlu rhwydweithiau (grwpiau gweithredu llifogydd) a gweithio mewn partneriaeth â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, roedd modd i ni leihau llifogydd ar dir i ran uchaf Afon Hafren.  

Drwy gynnwys perchnogion tir mewn trafodaeth oedd o fudd i fusnes y fferm, yn ogystal â dalgylch yr afon, roedd modd i ni gael ffermwyr i gefnogi'r prosiect mewn ffordd gynaliadwy. Drwy gyfuno ymgysylltu â'r gymuned â modelu, roedd modd i ni sefydlu gwelliannau â photensial gwirioneddol.  

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Mae’r Astudiaeth Ddichonoldeb wedi dangos na ellir sefydlu perchnogaeth heb lawer o waith cyfreithiol. Gellid ffurfio Grŵp Cyfeillion Piler Rodney a allai godi arian ar gyfer y cyllid sydd ei angen.

Allbynnau/Canlyniadau’r Prosiect

Allbwn (Dangosydd Lefel Achos)

Wedi’i gyflawni

Nifer yr astudiaethau dichonoldeb 4
Nifer y rhwydweithiau a sefydlwyd 4
Nifer y swyddi a ddiogelwyd 1
Nifer y gweithgareddau peilot yr ymgymerwyd â hwy / a gefnogwyd 0
Nifer y canolfannau cymunedol a grëwyd 0
Nifer y rhanddeiliaid a gymerodd ran 61
Nifer y cyfranogwyr a gefnogwyd (digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn unig) 96

Canlyniadau

Wedi’i gyflawni

Nifer y swyddi a grëwyd 0
Nifer y cymunedau’n elwa 3
Nifer y busnesau’n elwa 9

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Mike Morris
Rhif Ffôn:
07970 451601
Email project contact