Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£10200.00

Defnyddio celf i fynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol ymhlith cyn-filwyr y lluoedd arfog ac aelodau o’r gymuned.

Crynodeb o’r prosiect: 

Roedd Llwybrau Ysbrydoledig yn brosiect 15-mis a gyflenwyd gan yr Oriel Cyn-filwyr a Chymunedol, a sefydlwyd yn Hwlffordd, gan Barry John MBE, ar ôl iddo adael y Fyddin yn 2014. Mae’r VC Gallery yn defnyddio celf fel cyfrwng i fynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol ac yn cefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog ac aelodau o’r gymuned sydd ag anghenion cymhleth.

Deilliodd y prosiect o angen a ddynodwyd i leihau unigedd cymdeithasol ymhlith pobl hyglwyf 55 oed a hŷn. Dymunai’r VC Gallery ehangu o’u prif leoliad ar Stryd Fawr Hwlffordd a mynd â’u gwaith allan i gymunedau lleol mewn gwahanol rannau o’r sir.    
 
Beth ddigwyddodd:

Cynhaliwyd sesiynau celf, gan gynnwys ffotograffiaeth, barddoniaeth, peintio a ‘theithiau cerdded atgofus’ cymdeithasol mewn grwpiau bychain wedi’u cefnogi gan gymheiriaid mewn wyth cymuned o amgylch y sir. Ymlwybrodd pobl i’r sesiynau trwy rwydwaith helaeth y VC Gallery o gyrff atgyfeirio, ar lafar a chyhoeddusrwydd ehangach. 

Daeth pobl ynghyd yn gymdeithasol, llawer ohonynt ag anghenion cymhleth, gan gynnwys PTSD, dibyniaeth a phroblemau iechyd meddwl. Roedd gan y sesiynau therapiwtig agweddau cymdeithasol a chreadigol, yn ogystal â chyflwyno ac atgyfeirio buddiolwyr i rwydwaith ehangach o asiantaethau cefnogi.   
Cynhaliwyd 64 gweithdy i gyd, gyda 200 o fuddiolwyr, gan gynnwys pobl oedd wedi gwneud celf yn rheolaidd yn ystod eu bywydau, yn ogystal â’r rheiny nad oedd wedi codi brwsh paent ers eu dyddiau ysgol.

Roedd y prosiect yn cynnwys pobl gyda dementia, rhai ohonynt oedd wedi rhoi’r gorau i gyfathrebu’n llafar, a rhoddwyd llais iddynt trwy eu celf. 

Y canlyniad:

Mae’r prosiect wedi bod o fudd therapiwtig i bobl, gan ffurfio cysylltiadau cymdeithasol newydd sy’n helpu i leihau unigedd, yn ogystal â darparu cyfrwng o hunanfynegiant a chreadigrwydd.

 “Helpu eraill i helpu eu hunain. Mae’n rymusol ac yn hybu hyder. Rydym yn ei alw’n ‘stealth health"

Meddai Barry John. 

“Mae bod mewn amgylchedd hwyliog, cymdeithasol ac ymlaciol yn helpu i leihau pryder ac yn rhoi llais i bobl.”  

Yn ystod y prosiect, datblygodd yr hwyluswyr dechneg ‘map meddwl’ newydd gyda phobl sydd â dementia, gan fynd â nhw ar daith rithiol i lawr llwybrau’r cof, gan ymweld â llefydd y buont yn byw ynddynt yn eu hieuenctid, gan ddefnyddio Street View Google Maps. Cafodd y teithiau rhithiol hyn o amgylch hen gymdogaethau eu dal yn gydamserol mewn celf haniaethol a ddarparai waddol i deuluoedd yr artistiaid. Rhannwyd y dull newydd hwn gan y prosiect mewn cynhadledd Dementia GIG ac erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio yn lleol mewn gwasanaethau cefnogi dementia.  

Galluogodd llwyddiant y peilot i’r VC Gallery ychwanegu at eu sylfaen tystiolaeth, datblygu llysgenhadon ac arddangos llwyddiant eu dull. Arweiniodd hyn at syniadau newydd ac edrych ar gyfleoedd cyllid pellach, gan gynnwys cynllun grant Gwella Sir Benfro a redir gan y cyngor sir. Y mae hefyd wedi rhoi’r prosiect ar y map yn Hwlffordd, gyda chefnogaeth gynyddol iddo’n wythnosol.  
 
Prosiect ‘Llwybrau’r Cof’
   

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Barry John MBE
Rhif Ffôn:
01437 765873
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.thevcgallery.com