Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39788.00

Gall clwy tatws effeithio ar elw’r fferm gan y gall yr afiechyd arwain at weld y cnwd cyfan yn methu. Dengys amcangyfrifon diweddar y gall rheoli’r afiechyd cyffredin gostio cymaint â £70m i’r diwydiant ar draws y Deyrnas Unedig ar flwyddyn ddrwg.

Mae’r prosiect hwn yn helpu i ddatblygu bio-blaleiddiad naturiol trwy ddefnyddio cyfansoddyn cemegol (saponin) a geir mewn eiddew cyffredin.

“Gall y treial hwn arwain at gyfle newydd sbon yn y farchnad, i dyfu eiddew yn fasnachol, a defnyddio’r saponin naturiol sydd ynddo i helpu tyfwyr organig i leihau effaith clwy’r tatws.”

Bydd y bio-blaleiddiad a gynhyrchir yn anelu i gynnig dewis gwahanol effeithiol, naturiol ac isel ei gost o bosibl, i drin clwy’r tatws.

“Bydd hyn yn lleihau’r cnydau sy’n cael eu gwastraffu gan glwy’r tatws ac o ganlyniad uniongyrchol yn caniatáu cynnydd yng ngwerthiant tatws, gwell trosiant a gwell proffidioldeb.”

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan gynrychiolwyr o’r Sarvari Research Trust, Emerald Crop Science a Naturiol Ltd ac mae’r plotiau treialu ar ddwy fferm, Ty’n yr Helyg ger Llanrhystud a Henfaes ym Mhrifysgol Bangor.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau:

Infograffig (Rhagfyr 2019): Crynodiad o ganlyniadau y prosiect clwy tatws
Adroddiad (Rhagfyr 2019): Adroddiad Terfynol Clwyf Tatws
Cyhoeddiad Technegol (Gorffennaf/Awst 2019): Prosiect cyntaf EIP Wales yn croes…
Fideo (Awst 2018) - Diwrnod Agored Ty'n yr Helyg 
Adroddiad (Chwefror 2018): Adroddiad Interim Clwyf Tatws
Cyhoeddiad Technegol (Ionawr/Chwefror 2018): Rheoli clwy tatws gan ddefnyddio e…

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Tony Little
Email project contact