- Lleoliad:
-
Gwynedd
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£128266.00
Mae llaeth yn gynhwysyn hanfodol mewn nifer o gynhyrchion megis caws, iogwrt a hufen iâ. Mae’r canran uchel o solidau sydd mewn llaeth dafad (fel arfer 5.4% protein a 7% braster) yn ei wneud yn gynhwysyn delfrydol ar gyfer y cynhyrchion hyn. O ganlyniad, mae cynnydd sylweddol yn y galw am laeth dafad, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU.
O’i gymharu â’r sector gwartheg godro confensiynol yng Nghymru, mae prinder dealltwriaeth ynglŷn â pha ffactorau sy’n gallu rheoli proffil bacteriolegol llaeth dafad. Amcan y prosiect hwn yw ymchwilio sut y gall y tri ffactor isod y mae modd eu rheoli effeithio ar broffil bacteriolegol y llaeth dros dymor 2019 a thymor 2020.
1. Brîd y ddafad
Bydd samplau llaeth yn cael eu cymryd o grŵp o ddefaid Friesland, Lleyn a Freisland x Lleyn i ymchwilio a yw gwahaniaethau geneteg rhwng bridiau yn effeithio ar broffil bacteriolegol y llaeth.
2. Cyfnod o fewn y llaethiad
Bydd y defaid yn cael eu godro o fis Chwefror i fis Mehefin dros dri bloc o ŵyna. Bydd profi’r llaeth yn rheolaidd yn dangos os oes patrwm ym mhroffil bacteriolegol y llaeth yn ystod eu cylchred llaeth.
3. Ychwanegu seleniwm at y diet
Bydd un grŵp o ddefaid yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio os gall ychwanegu seleniwm at y diet leihau achosion clinigol ac is-glinigol o fastitis.
Cyn i’r sector llaeth dafad ehangu i lefel masgynhyrchu, mae’n bwysig bod cymaint o wybodaeth â phosibl yn cael ei chasglu ar laeth y ddafad. Gweledigaeth y grŵp yw bod ar flaen y sector addawol yma yng Nghymru ac i osod sylfeini cryf lle mae’r system gynhyrchu’n seiliedig ar laeth o safon uchel i’r cwsmer.
Mae’r grŵp yn gobeithio trwy gynyddu ei ddealltwriaeth o sut gallai’r tri newidyn y gellir eu rheoli effeithio ansawdd cyffredinol y llaeth, gellir gwneud argymhellion i sicrhau bod yr arfer gorau yn cael ei gymhwyso i systemau rheoli. Gobeithio trwy gynyddu dealltwriaeth, bydd mwy o ffermwyr yn cael eu hannog i fentro i’r sector llaeth dafad. Bydd cynnydd yn nifer y ffermwyr godro defaid yn golygu bydd mwy o gyflenwad o laeth dafad. Gallai hyn greu diwydiant o gynhyrchwyr bwyd arbenigol sy’n defnyddio llaeth dafad fel cynhwysyn craidd i’w cynnyrch.
Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Caroline Rimes