- Lleoliad:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£103027.00
Disgrifiad o’r prosiect:
Roedd hwn yn brosiect peilot blwyddyn o hyd a gafodd ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, Gweithdy DOVE a Chanolfan Hyfforddi Glyn-nedd. Nod y prosiect oedd dechrau datblygu economi bwyd a thyfu ffyniannus yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Nod y prosiect oedd:
- Mapio cynhyrchwyr cyfredol a chreu cyfeirlyfr o gynhyrchwyr / prosiectau lleol
- Cynllunio a darparu rhaglen beilot arloesol o weithgareddau / digwyddiadau tyfu bwyd cymunedol
- Dylunio ac achredu cwricwlwm newydd - Tystysgrif Tyfwyr CNPT a phecyn cymorth dysgu, gan weithio gydag Agored Cymru a datblygu ar lwyddiant Prosiect Tyfu'r Dyfodol
- Darparu mynediad at hyfforddiant mewn tyfu, prosesu a sgiliau menter e.e. bwytan iach, gwybodaeth am fwyd a ryseitiau, cynhyrchu bwyd, crefftau traddodiadol, gwaith coed ac ati.
- Creu rhwydwaith cymorth arloesol o gynhyrchwyr lleol a phrosiectau tyfu cymunedol
- Hyrwyddo bwyd iach fforddiadwy, wedi’i dyfu'n lleol - drwy ddarparu ystod o gyfleoedd a deunyddiau i godi ymwybyddiaeth ynghylch manteision bwyd lleol o ansawdd da, byrhau'r gadwyn gyflenwi a lleihau milltiroedd bwyd
- Arolygu tir sydd ar gael ar gyfer tyfu, datblygu partneriaethau gyda chymdeithasau tai, tirfeddianwyr preifat ac ati
- Sefydlu seilwaith ar gyfer Hwb Tyfu Cymunedol CNPT
- Ymgynghori chynhyrchwyr lleol a phrosiectau tyfu i asesu ac adrodd ar anghenion cymorth
- Nodi cyfleoedd yn y farchnad o fewn yr economi dwristiaeth leol i werthu cynnyrch bwyd a chynhyrchion cysylltiedig
- Ehangu a threialu gweithgareddau cefnogi gwirfoddoli a mentrau bwyd newydd
- Canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg ddigidol fel offeryn ar gyfer marchnata (gyda phwyslais cryf ar fwyd Gwnaed yng Nghymru')
- Gweithio gydag unigolion / grwpiau i ddatblygu syniadau busnes, gan gynnwys cyngor a chefnogaeth mewn meysydd fel ymchwil a datblygu, marchnata a hyrwyddo, ansawdd a chynhyrchu, gwerthu a dosbarthu.
Bydd y cynllun peilot yn asesu'r ffyrdd gorau o helpu grwpiau dan anfantais i elwa ar rwydweithiau bwyd cymunedol cefnogol drwy:
- Ymestyn cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli / dysgu o ran tyfu bwyd cymunedol / garddwriaeth
- Adeiladu rhwydweithiau cryfach ar gyfer hunangymorth ac adeiladu mentrau cymunedol cydweithredol
- Gweithio ar 'lawr gwlad' i ymgysylltu 'r gymuned a darparu llwybrau dysgu cefnogol.
Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?
Prif amcanion y prosiect oedd cyflawni astudiaeth ddichonoldeb ynghylch tyfu yn y gymuned a bwyd allai arwain at ddatblygu canolfan bwyd cymunedol a brandio cyffredinol ar gyfer cynhyrchwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
Ychwanegu gwerth, hwyluso ac archwilo trwy fapio y ddarpariaeth/cynhyrchwyr presennol ac ychwanegu at a chryfhau yr hyn sydd eisoes yn cael ei gynnig, bydd hyn yn cynnwys creu cyfeiriadur, a chreu rhwydwaith. Mae’r prosiect peilot hwn hefyd yn edrych ar ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Bydd datblygu Tystysgrif Tyfwyr CNPT yn ychwanegu gwerth/cydnabyddiaeth i’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan rai o aelodau’r gymuned. Bydd y prosiect yn cysylltu â phrosiectau eraill gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi’u hariannu gan CNPT ynghylch twristiaeth a’r nod o ychwanegu at yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd trwy gysylltu cynhyrchwyr gyda darparwyr llety.
Cynyddu’r defnydd o gynnyrch lleol i ychwanegu gwerth a chwtogi cadwyni cyflenwi:
Prif nod y prosiect yw annog mwy o dyfu cymunedol trwy nodi safleoedd addas a gweithio gydag aelodau’r gymuned i roi’r sgiliau y maent eu hangen iddynt dyfu/cynhyrchu yn y gymuned leol. Bydd digwyddiadau/deunyddiau fydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yn lleol a sut i gwtogi milltiroedd bwyd.
Annog a chefnogi datblygiad mentrau newydd yn CNPT:
Un o haenau y prosiect peilot hwn yw rhoi cymorth/cyngor i’r rhai hynny sy’n dymuno sefydlu mentrau yn y sector cynnyrch; bydd hyn yn cynnwys popeth o ddechrau busnes i ansawdd, marchnata ac ati.
Bywiog a mentrus:
Nod y prosiect hwn yw creu cymunedau gwledig bywiog trwy roi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae pobl eu hangen ar gyfer tyfu cymunedol ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd.
Pwy arall sy’n elwa?
Cymunedau lleol
Beth oedd canlyniad eich prosiect?
Perfformiodd y prosiect yn dda gan gyflawni yr hyn oedd yn anelu at ei gyflawni. Fodd bynnag, roedd yn brosiect cymhleth iawn o ran cyflawni mewn partneriaeth a thri prosiect llawer mwy yn cael eu cwtogi i gyflawni o fewn y gyllideb a nodwyd ac fel un prosiect. Y prif ganfyddiadau oedd bod llawer yn digwydd ar draws Castell-nedd Port Talbot ym maes Tyfu Cymunedol ac ar wahanol lefelau yn y gymuned; fodd bynnag, er mwyn i hyn ddatblygu mae angen i rhywun gefnogi grwpiau sy’n cychwyn.
Mae angen cymorth unigol ar entrepreneuriaid; fodd bynnag, mae angen i hyn fod yn hyblyg, bod modd ei addasu, yn hirdymor, a hefyd yn deall bod yr hyn y mae unigolion ei angen yn wahanol iawn. Darparwyd ystod eang o gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau fel rhan o’r prosiect – roedd hyn yn cynnwys adeiladu clom /wal poteli yn ysgol Maesmarchog.
Beth oedd yr heriau?
Roedd y newidiadau i’r gofynion o ran tystiolaeth hanner ffordd drwy’r prosiect yn cynnwys cyflwyno amserlenni gwahanol yn anodd ac yn golygu bod llawer o waith yn ail-drefnu hawliadau mewn prosiect oedd eisoes yn gymhleth.
Roedd yn brosiect cymhleth oherwydd natur y cyflawni gyda swyddogaethau pob partner oedd hyn yn oed yn anos oherwydd y diffyg canllawiau oedd ar gael.
Roedd cael tri prosiect pendant gyda llai o amser ac arian (wedi cwtogi) ar gais Grŵp yr Awdurdod Lleol yn anodd, nid oedd blwyddyn yn ddigon i ddatblygu’r prosiect yn llawn, dim ond profi’r dŵr a gweld faint o ddiddordeb oedd yn y gymuned leol.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Tony Potts
- Rhif Ffôn:
-
01639 631246
- Cyfeiriad e-bost:
- TonyP@NPTCVS.ORG.UK
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.nptcvs.wales/partnerships/tyfun-iach-gydan-gilydd/