Wisconsin dairy farmer Daphne Holterman. A day out to stimulate positivity, share forward thinking ideas and feel re-charged to face changes head
Ffermwr llaeth Wisconsin Daphne Holterman. Diwrnod allan i rannu syniadau blaengar ac ail-godi i wynebu newidiadau

 

Yn ystod Cynhadledd Ffermio flynyddol Cymru a gynhaliwyd yn Llanfair-ym-muallt, dywedodd y ffermwr llaeth o Wisconsin, Lloyd Holterman, fod angen dangosyddion perfformiad allweddol ar bob fferm er mwyn gwneud cynnydd. Gall gosod nodau rhesymol a’u diweddaru pan fo targedau’n cael eu cyrraedd yn gyson helpu busnesau ffermio ym mhob sector yng Nghymru i wella.

“Mae’n rhaid i ffermwyr wella eu busnesau’n barhaus er mwyn symud ymlaen, ond os nad oes ganddyn nhw ffon fesur neu nod, ni fyddant yn gwybod sut i gyrraedd yno. Mae hynny’n wir ar bob fferm, beth bynnag fo’r raddfa, boed yn fferm fechan neu’n fenter sylweddol.’’

Un o’i nodau oedd cynhyrchu 1.7 litr o laeth o 1kg o ddeunydd sych o’r fuches o 1072 o wartheg Holstein y mae ef a’i wraig, Daphne, yn ei rheoli.

Unwaith yr oeddent wedi cyrraedd y nod honno, roedden nhw’n canolbwyntio ar reoli’r cynnyrch drwy fesur effeithlonrwydd porthiant a dangosyddion perfformiad allweddol eraill bob mis.

“Peidiwch â rhoi nod o’r neilltu wedi i chi ei chyflawni,” meddai Mr Holterman wrth y gynulleidfa o dros 200 yn y gynhadledd.

Roedd y neges honno’n cael ei rhannu gan yr ymgynghorydd bwyd amaeth Dr Jonathan Birnie, a fu’n cynghori ffermwyr i adnabod y ffactor sy’n cyfyngu fwyaf ar eu busnes a chanfod sut i’w oresgyn, gan ofyn am gymorth gan eraill os oes angen.

Mae’n rhagweld cyfleoedd cyffrous i ffermwyr Cymru wrth i’r galw gynyddu o ganlyniad i boblogaeth gynyddol ledled y byd, ac er y bydd heriau’n ogystal, bydd heriau eu cystadleuwyr ar lefel fyd-eang yn fwy o ganlyniad i ffactorau gan gynnwys sychder, plâu, clefydau a cholledion pridd yn effeithio ar gynnyrch amaethyddol.

“Mae gallu’r DU i dyfu glaswellt a grawn yn sylweddol, gall allbynnau a chynhyrchiant gynyddu ac mae gennym ni 70 miliwn o ddefnyddwyr yn eistedd o’n cwmpas.’’
 

Dr. Jonathan Birnie discussing whether Farming is entering a golden age?
Dr. Jonathan Birnie yn trafod os mae Ffermio’n cyrraedd ei oedran euraidd?

 

Bu’n annog ffermwyr i ddefnyddio data ar gyfer rheoli, cymharu a chyfiawnhau eu penderfyniadau busnes, gan ddefnyddio manwerthwyr mawr fel enghraifft.

Roedd y manwerthwyr hynny wedi dominyddu gan eu bod wedi casglu data’n ymwneud â’u prynwyr ac wedi ei ddefnyddio i reoli eu busnesau, meddai.

Bu Dr Birnie hefyd yn cynghori ffermwyr i barhau i ddysgu - cynhaliwyd 1200 o ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth gan Cyswllt Ffermio y llynedd, a chwblhaodd 6,500 o ffermwyr hyfforddiant drwy raglen Cyswllt Ffermio.

“Mae gwaith ymchwil yn dangos bod incwm cyfartalog ffermwyr sy’n cwblhau gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus yn 12% yn uwch na’r rhai nad ydynt,” meddai.

Mae’r ffermwr defaid, Rhys Williams wedi datblygu ei fusnes drwy chwilio am wybodaeth a chyngor gan eraill, yn enwedig arloeswyr y system gost isel yn seiliedig ar borfa y mae’n ei ddatblygu yng ngogledd Cymru.

“Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan y rhai sy’n ardderchog am dyfu glaswellt a datblygu pobl. Maen nhw wedi gwneud i mi gymryd diddordeb mawr mewn ffermio cyfran a ffermio tir glas,” meddai Mr Williams, sy’n cadw diadell raddfa fawr o famogiaid Easycare mewn partneriaeth ffermio cyfran yn Abergele.

Roedd siaradwyr gwadd eraill yn y gynhadledd yn cynnwys Chris Moon OBE, cyn-ffermwr a Swyddog yn y Fyddin Brydeinig a gollodd ei fraich a’i goes wrth glirio ffrwydron tir ar ran elusen yn Affrica.

Mewn cyfnod o ansicrwydd i ffermwyr, dywedodd Mr Moon wrth ffermwyr i beidio â chael eu llethu gan yr ansicrwydd hwnnw. “Beth bynnag a ddaw, a beth bynnag fo’r ansicrwydd at y dyfodol, mae’n rhaid i ni beidio â chael ein llethu.’’

Cafwyd cyflwyniadau gan Ger Dineen, ffermwr bîff llwyddiannus o Iwerddon, a’r ffermwyr llaeth, Tom Foot a Neil Grigg.

Bu’r ffermwr da byw ac ysgolorion Nuffield, Richard Tudor, Alexander Brewster a Geraint Powell, yn amlinellu canfyddiadau eu gwaith ymchwil a sut oedden nhw wedi eu hintegreiddio i’w busnesau.

Cafwyd cyflwyniadau gan swyddogion technegol Cyswllt Ffermio, Lisa Roberts, Rhys Davies, Gethin Prys Davies, Imogen Ward, Catherine Price, Geraint Jones a Dr Delana Davies.

Dywedodd Teleri Fielden, ysgolor Llyndy Isaf, ac un o fynychwyr y gynhadledd: “Rydym ni wedi clywed gan siaradwyr ysbrydoledig iawn. Mae heddiw wedi rhoi cyfle i bob un ohonom gymryd cam yn ôl ac edrych ar bethau o safbwynt gwahanol. Mae’n rhy hawdd o lawer i gael eich llethu gan ansicrwydd.’’
 

 

Teleri Fielden - Llyndy Isaf Scholar talking to Cath Price of Farming Connect and James Powell - farmer from Llandrindod Wells
Teleri Fielden – Ysgolhaig Llyndy Isaf yn trafod gyda Cath Price, Cyswllt Ffermio ag James Powell – ffermwr o Landrindod