Emyr John

Penodi Cydlynydd Prosiect LEADER newydd yn PLANED.

Mae Emyr John wedi'i benodi fel y Cydlynydd Prosiect newydd ac mae'n gyfrifol am y prosiect LEADER presennol, y mae PLANED yn ei weinyddu yn Sir Benfro.

Ac yntau'n Gyn-Swyddog Monitro LEADER, daw Emyr â chyfuniad newydd o brofiad ariannol a monitro i'r swydd allweddol hon a fydd yn gymorth i gefnogi'r tîm, y prosiectau, ac Arwain Sir Benfro, y Grŵp Gweithredu Lleol sy'n gyfrifol am reoli cyllid LEADER.

Gan siarad am ei swydd newydd, dywedodd Emyr:

"Rwyf wedi gwirioni efo'r cyfle hwn i symud LEADER ymlaen.  Rwy'n hynod falch o waith y tîm LEADER cyfan a'r prosiectau yr ydym wedi'u cefnogi ledled y sir. Rwy'n edrych ymlaen at barhau gyda'r gwaith hwn yn fy swydd newydd."

Dywedodd Iwan Thomas, Swyddog Prif Weithredwr PLANED, wrth gadarnhau penodiad Emyr:

"Bydd Emyr yn wyneb cyfarwydd i nifer o'i swydd fel Swyddog Monitro.  Bydd ei gyfuniad o brofiad ariannol a sgiliau monitro yn dod â sawl budd i'r swydd hon. 

"Bydd rôl Emyr yn gwella canlyniadau prosiect LEADER yn sylweddol ac yn darparu cymorth amlwg i'r tîm gwych sydd gennym yma. Bydd hefyd yn gwella'r berthynas â'r Grŵp Gweithredu Lleol a'n helpu ni yma yn PLANED i fod mewn sefyllfa gref i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod Sir Benfro yn barod ar gyfer beth bynnag ddaw ar ôl gwireddu LEADER."

Fel Grŵp Gweithredu Lleol dros Sir Benfro, daw Arwain Sir Benfro â chyfuniad o gynrychiolwyr y gymuned leol, busnesau, partneriaid yn y trydydd sector a'r awdurdod lleol ynghyd. 

Ar hyn o bryd mae Arwain Sir Benfro yn cefnogi dros 65 syniad prosiect o grwpiau cymuned leol, sefydliadau a busnesau. Ariennir hyn trwy'r rhaglen LEADER, sy'n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mae LEADER yn cefnogi pob math o weithgareddau: mentora, hyfforddi, astudiaethau dichonoldeb neu brosiectau peilot sy'n rhoi syniad arloesol newydd dan brawf. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer prosiectau sy'n gwella sgiliau lleol, gwneud defnydd gwell o adnodd lleol neu wireddu potensial economaidd rhan o'r gymdogaeth gan arwain at ganlyniad neu gynnyrch 'newydd'.