Coed mewn man agored

Cyhoeddwyd y cynllun newydd hwn ar 13 Gorffennaf 2021 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters. Agorodd y ffenestr ar gyfer gwneud cais ar 14 Gorffennaf a bydd yn cau ar 27 Awst.

Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd yn darparu cymorth ariannol i helpu pobl i:

  • greu coetiroedd newydd
  • gwneud gwelliannau i goetiroedd presennol

Sy'n bodloni safonau'r Goedwig Genedlaethol. Gellir cyplysu'r grant â mathau eraill o gyllid. Bydd hyn yn creu coetiroedd amlbwrpas o ansawdd uchel. Agorodd y ffenestr ar gyfer gwneud cais ar 14 Gorffennaf a bydd yn cau ar 27 Awst.

Mae TWIG yn agored i geisiadau gan:

  • dirfeddianwyr
  • pobl sydd â rheolaeth lawn dros dir cyhoeddus a phreifat

Yn dilyn lansio'r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd ar 5 Gorffennaf a digwyddiad MS Teams ar 21 Gorffennaf.  Mae'r Cofnod, y Cyflwyniad a’r Atebion i'r holl gwestiynau a godwyd yn y digwyddiad ar gael trwy ddilyn y ddolen ganlynol;
Coedwig Genedlaethol i Gymru - Y Grant Buddsoddi mewn Coetir | LLYW.CYMRU

Mae Rhaglen Coedwig Genedlaethol Cymru wrthi'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, mae'n raglen hirdymor uchelgeisiol sy'n anelu at fod o fudd i genedlaethau'r dyfodol am flynyddoedd i ddod. Mae’r Grant Buddsoddi Mewn Coetir yn gronfa tymor byr ar hyn o bryd i helpu perchnogion coetiroedd sefydledig a'r rhai sy'n dymuno datblygu coetiroedd newydd, i wneud cais am gyllid i helpu i fodloni Canlyniadau Rhaglen Coedwig Genedlaethol Cymru.