Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru gyda phlant o Ysgol Hook

Cwrddodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, â thîm PLANED er mwyn dysgu mwy am eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn Sir Benfro.

Mae tîm PLANED wedi bod yn cynorthwyo i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc ar hyd y sir yn cael eu clywed, gan ddechrau ar lefel y gymuned leol.

Mae Sally wedi bod yn Gomisiynydd Plant Cymru ers mis Ebrill 2015. Mae ei swydd hi’n cynnwys hysbysu eraill ynghylch pam fod hawliau plant mor bwysig, gan edrych ar sut mae penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant.

Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd Matthew Townsend o PLANED:

“Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn ar ôl cwrdd â Sally i drafod y gwaith sy’n cael ei wneud yn Sir Benfro. Mae hyn yn ymwneud â’i gwaith i roi llais i blant a phobl ifanc wrth siarad am yr hyn sy’n effeithio arnynt.

“Mae fy methodolegau yn adlewyrchu’r ymchwil academaidd bresennol ym maes Ymgysylltu Ystyrlon gyda Phlant a Phobl Ifanc a chafodd ei gydnabod yn ddiweddar gan Gyfarwyddwr BIP Hywel Dda fel enghraifft o Ymarfer Gorau yn y maes.”

Dywedodd Sally Holland

“Cafodd y gwaith sy’n cael ei gynnal yn Sir Benfro argraff arna i, y gwaith sy’n cael ei wneud ar lefel Cyngor Tref a Chymuned yn benodol. Dyma rywbeth nad ydw i wedi ei weld yng Nghymru o’r blaen. Mae gen i ddiddordeb mewn dilyn canlyniadau’r datblygiad a’r ymchwil.”

Mae’r gwaith wedi cael ei ddechrau gan Matthew, sef Swyddog sy’n gweithio ar brosiect Llesiant a Gwytnwch Cymuned a ariennir gan LEADER. Maent yn ymgysylltu gyda’u cymunedau er mwyn datblygu asesiadau, cynlluniau a mentrau prosiectau llesiant lleol.

Daw’r cyllid hwn o raglen LEADER, sy'n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.