Tourism funding

Cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglywdd Elis-Thomas bod £2.2 miliwn yn cael ei gynnig i 23 prosiect fydd yn gwella'r profiad a gaiff ymwelwyr yng Nghymru.  

Mae’r cyllid wedi’i gynnig drwy’r cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth, sydd wedi'i anelu at sefydliadau cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau dielw ar gyfer targedu buddsoddi mewn prosiectau seilwaith bach (amwynderau i ymwelwyr) yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Daeth arian y prosiect oddi wrth Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau seilwaith ledled Cymru i wella amwynderau ar gyfer ymwelwyr yn ogystal â chynnyrch fydd yn helpu i ddatblygu cyrchfannau o safon uchel.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog: 

"Mae'r cynllun hwn yn ffordd wych inni helpu'r sector twristiaeth i wneud y gwelliannau i gyfleusterau ac amwynderau lleol, ac rwyf wedi gweld y gwelliannau a wnaethpwyd mewn sawl maes gyda chymorth y cyllid hwn dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae pobl ond yn sylwi ar gyfleusterau megis llwybrau cerdded, toiledau, arwyddion, meysydd parcio pan nad ydynt ar gael neu ddim yn ddigon da - sy'n dangos eu bod yn rhan bwysig o'r profiad sydd gan bobl o Gymru.   Mae hyn hefyd yn fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus mewn amwynderau i'r bobl hynny sy'n byw yn ar ardal felly mae o fudd i bobl leol ac ymwelwyr. Mae'r prosiectau hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i drigolion lleol ac ymwelwyr i gadw’n heini trwy ddefnyddio amgylchedd naturiol Cymru.”

Mae’r cyllid wedi rhoi cyfle gwych i bartneriaid lleol bennu grŵp o brosiectau a all wneud gwahaniaeth yn eu hardal.  Mae ymwelwyr yn disgwyl i bob agwedd ar eu hymweliad fod o’r ansawdd gorau, gan gynnwys llety, gwybodaeth, toiledau a meysydd parcio.

Mae’r prosiectau yn cynnwys gwella llwybrau beicio; gwella mynedfeydd a chyfleusterau traethau baner las; darparu lleoedd parcio i ymwelwyr ac arwyddion a thoiledau cyhoeddus. Bydd y prosiectau hefyd yn bodloni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol yn ogystal â blaenoriaethau cenedlaethol.  

Dyma rai enghreifftiau penodol: 

  • Antur Stiniog Cyf, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog Rhwydwaith newydd o lwybrau beicio gyda tri llwybr newydd ar safle rhwydwaith Llechwedd a datblygu ac ailstrwythuro un o'r llwybrau gwreiddiol i apelio at farchnad ehangach.  Bydd llwybr newydd gradd glas (1.4km o hyd) i apelio at deuluoedd a dechreuwyr; llwybr coch newydd (1km o hyd) sy'n addas ar gyfer gallu canolig, ac adran ddu newydd (0.7km) i gysylltu â'r rhwydwaith llwybrau presennol.
  • Dwr Cymru Cyf - Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Cerrigydrudion. Bydd y gwaith yn cynnwys gosod camerâu a thechnoleg atodol fel bod modd cael delweddau o safon uchel o weilch y pysgod sy'n magu. Gwelliannau mynediad i roi arwynebedd i 296metr o drac coedwigaeth yn Llyn Brenig a gwella'r arwyddion gan gynnwys arwyddion newydd i gyfeirio at y llwybr allan.
  • Cynghorau Ceredigion, Gwynedd, Sir Benfro a Phowys Mae'r prosiect hwn ar y cyd yn golygu gosod sgriniau arddangos CGI 'Smart' ar Traws Cymru T2 & T5 yn dangos gwybodaeth gyhoeddus mewn saith lleoliad strategol ar hyd Coridor Arfordir Gorllewin Cymru ac ar arosfannau bysiau sy'n cael eu gwasanaethu gan lwybrau bws Traws Cymru T2 a T5, rhwng Abergwaun a Phorthmadog.
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Cyflwyno Ffynhonnau Dŵr Yfed - rhaglen beilot o ffynhonnau dŵr yfed ar draws saith o brif gyrchfannau twristiaeth Sir Benfro.
  • Cyngor Abertawe I wneud Bae Baner Las Caswell, y Gŵyr yn gyrchfan hygyrch i ymwelwyr sydd ag anableddau dysgu neu gorfforol difrifol. Bydd y cyfleusterau newydd yn cynnwys uned Changing Places modiwlar, gyda hoist, cawod a gwely newid, yn ogystal ag offer traeth arbenigol, megis cadeiriau olwyn sy'n arnofio i ganiatáu mynediad hawdd at y traeth a'r dŵr.  Bydd uned storio yn cael ei brynu hefyd i storio'r offer newydd yn ddiogel.

Mae pob sefydliad wedi cael llythyr yn cynnig y cyllid drwy gynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth. Derbynnir y cynigion hyn yn ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf a rhoddir cynllun prosiect ar waith gyda’r awdurdod rheoli perthnasol.