Yn ddiweddar daeth prosiectau sydd wedi bod yn rhedeg ar draws Sir Benfro at ei gilydd i gyflwyno'r hyn a gyflawnwyd ganddynt yn sgil cael cyllid gan LEADER, sef dull o’r gwaelod i fyny i ddarparu cefnogaeth i gymunedau ar gyfer datblygu gwledig.
Croesawodd aelodau Grŵp Gweithredu Lleol Sir Benfro, Arwain Sir Benfro a staff PLANED sy'n gweinyddu Cronfa LEADER ystod o brosiectau a roddodd gyflwyniadau mewn digwyddiad dathlu byr ar gyfer prosiectau LEADER sydd wedi gorffen.
Dywedodd Karen Scott, Swyddog Animeiddio ac Effaith:
"Roeddem yn falch iawn o'r nifer a'r ystod o brosiectau a ymunodd â ni a gwnaethom fwynhau yn arw clywed am yr holl lwyddiannau a chanlyniadau gwych. Roedd hefyd yn gyfle i rwydweithio, i glywed am brosiectau LEADER eraill, adnabod cyfleoedd i weithio ar y cyd, ac archwilio syniadau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol."
Rhoddwyd cyflwyniadau gan y prosiectau a'r sefydliadau canlynol:
- Bloomfield, Prosiect Pobl Hŷn ac Oergell Gymunedol
- Canolfan Iechyd Therapi Naturiol Clynfwy
- Cysylltwyr Cymunedol
- Haverhub
- Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
- Cyfeillion Ceir PACTO
- Prosiect META Fforwm Arfordirol Sir Benfro
- Canolfan Ymwelwyr Harri VII Cyngor Tref Penfro
- Amgueddfa Dinbych-y-pysgod
- Oriel VC
- Transition Bro Gwaun
- Deall “comins” (commoning) yn Sir Benfro
Sicrhaodd Arwain Sir Benfro, y Grŵp Gweithredu Lleol ar gyfer Sir Benfro dros £3,300,000 o arian, ac mae wedi bod yn cefnogi prosiectau sy'n profi syniadau newydd sydd o fudd i Sir Benfro. Ariannwyd dros 65 o brosiectau gan gynnwys 3 phrosiect cydweithredol sy'n gweithio gyda phartneriaid y tu allan i Sir Benfro.
Mae'r rhaglen LEADER yn rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
Daw'r enw LEADER o'r talfyriad Ffrangeg am 'Liaison Entre Actions pour le Development de L'Economie Rurale” sy'n cyfieithu’n fras i 'cysylltiadau rhwng camau gweithredu ar gyfer datblygu'r economi wledig'.
Mae ymagwedd LEADER yn cynnwys methodoleg datblygu gwledig sy'n cynnwys partneriaeth, datblygu ar lawr gwlad o’r 'gwaelod i fyny', arloesi a chydweithredu.