Explore Churches

Mae eglwysi a chapeli hanesyddol yn mynd i fod yn rhan allweddol o’r hyn sydd gan Gymru i’w chynnig i dwristiaid, diolch i ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’, prosiect newydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.

Yn gweithio ar y cyd gyda Croeso Cymru, Yr Eglwys yng Nghymru, Addoldai Cymru, Cadw a phartneriaid cenedlaethol eraill, bydd ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’ yn sicrhau y bydd cyfeiriadau at dros 500 o addoldai Cymru yn cael eu cofnodi ar ExploreChurches, hwb twristiaeth eglwysi’r DU (www.explorechurches.com), erbyn Mai 2020.

Bydd y wefan yn rhoi sylw arbennig i hanes cyfareddol a chelfyddyd a phensaernïaeth godidog dros 500 o eglwysi a chapeli hanesyddol sydd wedi eu lleoli ar hyd ac yn ymyl llwybrau Ffordd Cymru, y tri llwybr cenedlaethol a ddatblygwyd gan Croeso Cymru – sef Ffordd yr Arfordir, Ffordd Cambria a Ffordd y Gogledd. Bydd lluniau a ffilmiau newydd hefyd yn rhan o ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’ – hyn oll yn gymorth i sicrhau sylw arbennig i rai o gysegrfannau gorau’r DU.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Glwedig Cymru 2014 – 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’ yn hwyluso’r ffordd i ymwelwyr brofi treftadaeth sanctaidd Cymru – treftadaeth o’r radd flaenaf.  Bydd gwefan ExploreChurches yn cynnwys manylion oriau agor, digwyddiadau arbennig ac offer mapio i wneud eglwysi a chapeli hanesyddol yn rhan anhepgor o fap twristiaeth Cymru. Bydd gwybodaeth allweddol hefyd ar gael ar wefan Ffordd Cymru.  Ein nod yw sicrhau y bydd ymweliadau ag eglwysi a chapeli yn dod yn rhan annatod o wyliau teuluol, penwythnosau i ffwrdd, gwyliau seibiant byr a diwrnodau allan yng Nghymru.

Bydd cysegrfannau Cymru hefyd yn cael eu marchnata i’r diwydiant twristiaeth ledled y DU a thramor.  A oes gennych awydd eistedd yn sedd yr Esgob? I gael eich gwefreiddio gan rym y capel? I ddilyn yn ôl traed y pererinion? Cynigir pum ‘profiad’ grymus yn rhan o ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’ – y pump yn seiliedig ar leoliadiau a / neu hanesion arbennig. Bydd modd neilltuo’r rhain yn hwylus ar-lein fel y bydd ymwelwyr yn gallu cael profiadau byw o dreftadaeth Cymru.

Dywedodd Huw Edwards, Darlledwr, Newyddiadurwr ac Is-lywydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi:

‘O gapeli pen bryn i eglwysi hynafol a chadeirlannau canoloesol, mae eglwysi a chapeli Cymru yn rhai o’r adeiladau crefyddol hyfrytaf unman yn y byd.’

‘Yr wyf wrth fy modd bod ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’ yn ei wneud yn brofiad cyffrous a hwylus i ddarganfod cysegrfannau Cymru. Mae’n hen bryd i eglwysi a chapeli Cymru gymryd eu lle haeddiannol ar fap twristiaeth, ochr yn ochr â’n cestyll mawreddog, mynyddoedd trawiadol a’n harfodir godidog.’

Dywedodd Claire Walker, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi:

‘Mae hanes, celfyddyd a phensaernïaeth eglwysi a chapeli Cymru wedi bod yn gyfrinach cwmni dethol ffodus am gyfnod rhy hir. Mae cysegrfannau Cymru yn gyforiog o hanes, diwylliant a mytholeg, ac mae ganddynt y gallu i ysbrydoli’r meddwl a bywiocáu’r enaid. Bydd ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’, trwy ddefnyddio grym y cyfryngau digidol, yn hwyluso’r ffordd i bobl Cymru ac ymwelwyr y DU a thramor ddarganfod a phrofi’r celfyddwaith byw hwn.’

‘Yr wyf yn ddiolchgar i’n partneriaid allweddol, Croeso Cymru, yr Eglwys yng Nghymru, Addoldai Cymru a Cadw am fuddsoddi amser ac arian yn ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’. Mae denu mwy o bobl i ymweld ag eglwysi a chapeli Cymru yn allweddol o ran sicrhau eu cynaliadwyedd hirdymor. Yn ogystal â hyn, bydd yr arian a werir gan dwristiaid yn rhoi hwb i’r economi – ac yn cynorthwyo busnesau lleol – sy’n newyddion da i bawb yng Nghymru.’

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

‘Yr wyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi’r bartneriaeth a’r fenter gyffrous hon yn ystod ein Blwyddyn Darganfod. Mae cymaint o hanes Cymru ynghlwm â’n cysegrfannau – a bydd y fenter hon yn dod â’r hanes yn fyw ac yn denu mwy o bobl i ddarganfod yr hyn sydd gan ein capeli a’n heglwysi i’w cynnig.’

Yn ôl Sarah Crossland, Rheolwr Twristiaeth Eglwysig Ymddiredolaeth Genedlaethol yr Eglwysi:

‘Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda gwirfoddolwyr yr eglwysi a’r capeli sydd ar hyd Ffordd Cymru a ledled Cymru i ddarganfod ac adrodd eu hanesion. Bydd eglwysi hynafol a chapeli hanesyddol grymus Cymru yn dod yn rhan bwysig o gynigion cynyddol y wlad i dwristiaid. Gyda lluniau gwefreiddiol, ffilmiau dengar a ‘phrofiadau’ unigryw, rydym yn estyn croeso i chi ymuno â ni wrth i ni ‘Archwilio Cymru Sanctaidd’.