Argraff arlunydd o Coed Llwyn Helyg

Ariennir gan y Raglen Datblygu Gwledig, bydd gwaith yn dechrau’n fuan ar gynllun gwella Coed Llwyn Helyg.

Mae’r coetir sy’n eiddo Cyngor Sir Penfro – rhan o ardd Fictoraidd Tŷ Llwyn Helyg a ddymchwelwyd yn y 1940au – yn boblogaidd gyda’r cyhoedd

Ychydig i’r gogledd o Hwlffordd, mae’n cynnwys taith gron un cilometr o gwmpas pwll ac mae’n denu dros 36,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Bwriad y cynllun yw ail-greu elfennau’r ardd hanesyddol a’i nodweddion dŵr – a oedd yn wreiddiol yn cynnwys dau bwll – wrth gyfoethogi ei bioamrywiaeth. 

Bydd gwaith yn cynnwys dadsiltio’r prif bwll i’w ddychwelyd i’w faint
blaenorol, ailsefydlu’r pwll isaf a gollwyd a chreu llwybr newydd 180 metr.

Y bwriad hefyd yw ailbwyntio’r hen bontydd carreg a phrysgoedio’r coed helyg a gwern sy’n aeddfed iawn bellach a dileu planhigion estron. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ymestyn y maes parcio presennol.

Y disgwyl yw y bydd y prosiect yn helpu’r ardal gyflawni statws Baner Werdd – meincnod cydnabyddedig ledled y wlad ar gyfer mannau agored i’r cyhoedd – fel sydd gan Barc Gwledig Maenordy Scolton, hefyd dan reolaeth yr Awdurdod.

Bydd y gymuned leol yn ymwneud yn weithredol â phlannu rhyw 175 o goed a thros 600 o fylbiau blodau gwyllt cymysg.

Meddai’r Cynghorydd Cris Tomas, yr Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros yr Amgylchedd a’r Gymraeg:

“Rwy’n hynod falch bod y cynllun hwn, a nodwyd beth amser yn ôl, ar fin dechrau. Bydd yn gwella cyfleoedd i natur lewyrchu ac i bobl fwynhau’r amgylchedd naturiol hwn. Mae’n galonogol gweld pobl yn rhoi eu hamser i wirfoddoli ar gyfer cyfoethogi’r ardal."

"Bydd gwaith rhagarweiniol yn dechrau’n fuan ac fe all fod peth amhariad ar ymwelwyr â’r coed gan gynnwys cau rhai o’r llwybrau’n rhannol. Ymddiheurwn am unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi.”

Derbyniodd y cynllun gymorth ariannol trwy Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru, yn ogystal, mae’r prosiect wedi derbyn cyllid oddi wrth y Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.