Cafodd Cynllun Hyrddod Mynydd ei lansio gan Hybu Cig Cymru (HCC) er mwyn cryfhau’r sector defaid yng Nghymru trwy welliant genetig hirdymor.
Hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yn y DG a’i fwriad yw cymell mwy o ffermwyr mynydd Cymru i ddefnyddio hyrddod â chofnodion perfformiad er mwyn cynhyrchu ŵyn sy'n ateb ystod eang o ofynion y farchnad gartref a thramor.
Bydd y Cynllun Hyrddod Mynydd yn rhedeg am bum mlynedd fel rhan o Raglen Datblygu Cig Coch HCC, sy'n anelu at wella effeithlonrwydd a chryfhau diwydiant cig coch pwysig Cymru.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Cafodd saith o ddiadelloedd arweiniol eu recriwtio ar gyfer blwyddyn gyntaf y prosiect a bydd mwy o ddiadelloedd yn ymuno â'r prosiect yn ystod y pum mlynedd nesaf, gyda’r nod o gael 35 o ddiadelloedd yn cymryd rhan yn y diwedd.
Mae’r diadelloedd arweiniol yn rhwydwaith graidd a daearyddol amrywiol o ffermwyr mynydd sydd yn cynhyrchu amryw o fridiau defaid mynydd brodorol, gan gynnwys teip mynydd Gogledd Cymru a theip Cymreig wedi eu gwella. Bydd y ffermwyr hyn yn cynghori recriwtiaid newydd yn y dyfodol trwy rannu eu profiad cychwynnol o’r cynllun.
Bydd y ffermwyr sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys tras DNA, i fonitro a chofnodi data genetig a dangosyddion perfformiad allweddol o fewn y ddiadell. Byddan nhw’n cael cefnogaeth a hyfforddiant trwy gydol y cynllun i farchnata eu diadelloedd a sefydlu arwerthiant hyrddod mynydd â chofnodion perfformiad.
Esboniodd Gwawr Parry o HCC, sy'n arwain y Cynllun Hyrddod Mynydd:
"Fel arfer bydd diadelloedd mynydd Cymreig yn cynhyrchu ŵyn ysgafn, ac aeth yn anos i werthu’r ŵyn hyn yn y marchnadoedd traddodiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd defnyddio gwell geneteg mewn diadelloedd mynydd yn golygu y gall ffermwyr dargedu twf a phesgi - er mwyn cynhyrchu ŵyn sy'n addas ar gyfer ystod ehangach o farchnadoedd.
"Mewn system haenedig draddodiadol, mae mamogiaid mynydd yn rhan bwysig o’r cynnyrch ar dir isel - ac felly, trwy gyfrwng geneteg elit y ddiadell fynydd, bydd y manteision yn treiddio drwy’r holl ddiwydiant cig oen yng Nghymru.
"Yn ogystal, trwy wneud y systemau defaid mynydd yn fwy effeithlon, bydd y ffermydd hwythau yn fwy effeithlon yn ariannol a bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu gostwng."
Ychwanegodd Gwawr:
"Rydym yn gyffrous iawn o weld y prosiect hwn ar waith, a chredaf y caiff effaith sylweddol ar ffermwyr mynydd Cymru a diwydiant defaid Cymru yn gyffredinol."
Cynhelir cyfres o gyfarfodydd agored ar y cynllun hyrddod mynydd trwy gydol mis Chwefror ac estynir gwahoddiad cynnes i’r rhai sydd am ddarganfod mwy am y cynllun a’i fanteision. Cynhelir y digwyddiadau yn y lleoliadau canlynol:
- 7/2/2019 – The Goat Inn, Bryncir, 7-9pm
- 12/2/2019 – Eagles Hotel, Llanrwst, 7-9pm
- 13/2/2019 – Royal Ship Hotel, Dolgellau, 7-9pm
- 19/2/2019 – The Talbot, Tregaron, 7-9pm
- 20/2/2019 – Whitehouse Country Inn, Sennybridge, 7-9pm
I gofrestru ar gyfer y cyfarfodydd neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â HCC ar 01970 625050 neu ebost info@hccmpw.org.uk