Nod y fenter Aros, Bwyta, Gwneud yw cynnig pecynnau sy'n cyfuno llety, bwyd a gweithgareddau ar draws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sef yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fwyaf yng Nghymru. 

Mae'n ffrwyth gwaith gan Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd, a hynny mewn ymateb i astudiaeth ddichonoldeb a gomisiynwyd gan yr asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd. Dywedodd y Cydgysylltydd Prosiect newydd, Julie Masters: "Hoffem annog pobl i ddod yma, gan aros am fwy o amser a phrofi'r hyn y gall y rhanbarth ei gynnig. 

"Mae'r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod yma am ddiwrnod neu efallai benwythnos ond os gallwn lunio amserlenni wedi'u teilwra ar eu cyfer yn cynnwys mannau i aros, mannau i fwyta a phethau i'w gwneud efallai y byddant yn estyn eu cyfnod yma i benwythnos hir neu hyd yn oed wythnos.

"Rydym wedi dechrau creu'r pecynnau hynny fel rhan o raglen tair blynedd a hoffem glywed gan gymaint â phosibl o'r darparwyr twristiaeth fel y gallwn greu profiadau cofiadwy, diddorol a chyffrous i ymwelwyr sy'n cyfuno'r tair elfen. 

"Bydd y rhaglen hon yn parhau am dair blynedd felly hoffem glywed gennych os oes gennych unrhyw weithgareddau ar y gweill."

Bydd y prosiect Aros, Bwyta, Gwneud yn parhau hyd Haf 2021 a bydd yn costio £71,000. Caiff cyllid ei ddarparu gan Cadwyn Clwyd ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a bydd Cynghorau Dinbych, Wrecsam a Sir y Fflint yn cefnogi'r gwaith. 

Caiff cyfraniad Cadwyn Clwyd at y prosiect ei gyllido gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, a hynny fel rhan o gynllun chwe blynedd sy'n ceisio adfywio cymunedau gwledig a'u heconomïau.