Hilltop Honey

Cafodd Scott Davies o Hilltop Honey ei enwebu ar gyfer Gwobr Dewi Sant am Fenter, ac enillodd.

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cael eu henwebu gan y cyhoedd. Cynhaliwyd Gwobrau 2019 ar 21 Mawrth yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Pwyllgor Ymgynghorol Gwobrau Dewi Sant sy’n dewis y teilyngwyr yn yr 8 categori cyntaf; gymysgedd o aelodau annibynnol sydd â rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru ac enillwyr neu deilyngwyr y gwobrau blaenorol.

Enillodd Scott y Wobr am Fenter. Mae hwn yn gategori ar gyfer enwebeion sydd 'wedi bod yn hynod lwyddiannus ym myd busnes. Gallai hyn gynnwys creu cyflogaeth ystyrlon iddyn nhw eu hunain a phobl eraill'.

Sefydlodd Scott Davies Hilltop Honey yn 2011 ac ers hynny mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth, gyda throsiant sydd wedi cynyddu o £234,000 i dros £4 miliwn. 

Sefydlodd Scott Hilltop Honey fel 'hobi' yn 2011 yng ngardd gefn cartref ei rieni yn y Canolbarth.  Cyflwynodd Hilltop Honey gais llwyddiannus am gyllid yn ystod cylch cyntaf y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd drwy Raglen Cymunedau Gwledig  - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru a gaiff ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

Dysgwch fwy drwy wylio'r fideos isod.