Scott Davies, Hilltop Honey

Sefydlodd Scott Davies Hilltop Honey yn 2011 ac ers hynny mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth, gyda throsiant sydd wedi cynyddu o £234,000 i dros £4 miliwn. 

Sefydlodd Scott Hilltop Honey fel 'hobi' yn 2011 yng ngardd gefn cartref ei rieni yn y Canolbarth.  Cyflwynodd Hilltop Honey gais llwyddiannus am gyllid yn ystod cylch cyntaf y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd drwy Raglen Cymunedau Gwledig  - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru a gaiff ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd. 

Dyma un o'r prosiectau cyntaf i gael ei gymeradwyo o dan y cynllun a derbyniodd grant gwerth £240,000. Cafodd cyfanswm o £600,000 ei fuddsoddi mewn prynu uned prosesu diwydiannol newydd, gwaith mewnol ar gyfer uwchraddio adeilad i safon cynhyrchu bwyd ac mewn prynu cyfarpar prosesu.

Gwelodd y cwmni dwf anhygoel yn y pum mlynedd diwethaf, gyda trosiant yn cynyddu o £234,000 i dros £4 miliwn. Mae gan Hilltop Honey y gallu i gynhyrchu 850,000 o botiau y mis.

Mae Hilltop Honey bellach yn cael ei werthu gan nifer o archfarchnadoedd mawr a nifer o siopau fferm annibynnol. Mae'r busnes wedi symud i bencadlys 14,000 tr sg yn Y Drenewydd, Powys ac mae sawl cynnyrch mêl newydd wedi'i ddatblygu, gan gynnwys mêl o Brydain, mêl arbennig, Organig, Manuka ac Organig Masnach Deg, a phob un ohonynt ar gael mewn potiau gwydr y mae modd eu hail-ddefnyddio a photeli y gellir eu hailgylchu 100%.

Hilltop Honey oedd y cwmni cyntaf i werthu mêl organig Masnach Deg. Daw yr holl fêl ar gyfer y cynnyrch Masnach Deg drwy gwmnïau cadw gwenyn cydweithredol ardystiedig mewn gwledydd sy'n datblygu, gan drawsnewid bywydau ffermwyr a chymunedau lleol drwy gyfrannu at eu dyfodol cynaliadwy.

Mae'r busnes yn ymrwymo i recriwtio doniau lleol a'u datblygu drwy eu rhaglen hyfforddi fewnol.

Mae Hilltop Honey yn rhedeg eu hymgyrch 'Mabwysiadu Gwenyn' eu hunain ble y gall ddefnyddwyr ddysgu mwy am bwysigrwydd gwenyn i'r amgylchedd. Mae'r busnes yn cyfrannu 25% o'r elw o hyn i'r elusen haeddiannol Honeypot Children's Charity.
Bu i'r cwmni hefyd greu yr ymgyrch 'Achub Gwenyn Prydain drwy Blannu Hadau', gan ymuno â Tesco ac Ocado i annog defnyddwyr i greu gerddi i ddenu gwenyn trwy ddefnyddio pecyn o hadau am ddim ddaeth gyda pob pot o fêl a 

Mae gwaith caled Scott yn parhau i dalu ar ei ganfed a chadarnhaodd y Prif Weinidog ar 14 Chwefror fod Hilltop Honey ar restr teilyngwyr Gwobr Mentergarwch Gwobrau Dewi Sant 2019.

Gweler y fideos isod –