Os ydych am i'ch busnes fferm berfformio ar ei orau wrth i’r diwydiant nesáu at ansicrwydd Brexit, allai hwn fod yn amser da i fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau datblygu personol? 

A fyddai eich busnes yn elwa pe byddech chi, aelodau o’ch teulu neu’r gweithlu yn cymryd amser allan i ymgyfarwyddo â’r arferion gorau cyfredol ar bynciau sy’n amrywio o dechnegau cneifio ac ŵyna i Gymorth Cyntaf neu Iechyd a Diogelwch? A ydych chi'n awyddus i symleiddio neu i wella systemau ar gyfer elfennau rheoli ac ariannol eich busnes? A allai hyfforddiant helpu eich busnes weithredu'n ddiogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy proffidiol?

Ar yr amod eich bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, mae’r cyfnod ymgeisio cyfredol ar gyfer gwneud cais am gyllid o hyd at 80% ar gyfer sgiliau a hyfforddiant nawr ar agor tan ddydd Gwener, 1 Mawrth 2019. Bydd y cyfnod ymgeisio nesaf ar agor o ddydd Llun 3 Mehefin tan ddydd Gwener, 28 Mehefin a bydd y cyfnod olaf eleni ar agor o ddydd Llun, 7 Hydref tan ddydd Gwener, 1 Tachwedd 2019.

Cyn i chi gyflwyno cais ar-lein am gyllid, mae’n rhaid i chi gael ‘cynllun datblygu personol’ (PDP) cyfredol gyda Cyswllt Ffermio a fydd yn eich cynorthwyo i nodi eich cryfderau neu unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth. Gyda’ch PDP, gallwch sefydlu eich nodau hyfforddiant a diweddaru’r ddogfen ar-lein pan fyddwch chi’n cyrraedd pob carreg filltir. Byddwch hefyd yn gwybod am ba hyfforddiant i ymgeisio, gyda dros 60 o gyrsiau achrededig ar gael yng nghategorïau ‘gwella busnes’, ‘technegol’ a ‘defnyddio peiriannau ac offer’.

Mae’r broses PDP ar-lein yn fyr ac yn syml, ond mae cymorth ar gael naill ai gan eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio neu eich darparwr hyfforddiant o ddewis. Hefyd, mae Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth drwy weithdai PDP rhyngweithiol a gynhelir ledled Cymru. Mae dyddiadau a lleoliadau i’w gweld ar wefan Cyswllt Ffermio. 

Darperir elfen hyfforddiant rhaglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio gan Lantra Cymru. Ers 2015, mae dros 3,200 o unigolion wedi cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi achrededig, gyda chyllid o hyd at 80%, gan ei wneud yn gynnig deniadol a buddiol i lawer o fusnesau a’u gweithwyr.

Dywed Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, fod y rhaglen yn trawsnewid sgiliau personol a sgiliau busnes llawer o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru.

"Mae'n galonogol iawn ein bod yn gweld cynnydd cyson flwyddyn ar flwyddyn yn nifer y ceisiadau ar gyfer hyfforddiant datblygu busnes,"

Meddai Mr. Thomas, a bwysleisiodd bod rhaid i chi gofrestru gyda Cyswllt Ffermio cyn y gallwch gwblhau eich PDP neu gyflwyno ffurflen gais am gyllid ar-lein. 

"Unwaith y byddwch wedi cofrestru byddwch yn derbyn eich e-bost cofrestru unigol yn cadarnhau eich manylion ar gyfer gwefan BOSS. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys y wybodaeth y byddwch chi ei hangen er mwyn mewngofnodi i BOSS drwy Sign On Cymru (SOC) ac yna rydych chi’n barod i symud ymlaen i gwblhau neu ddiweddaru eich PDP a chyflwyno cais am gyllid.” 

Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i weld rhestr o’r holl gyrsiau hyfforddiant achrededig 'wyneb yn wyneb' ynghyd â rhestr o ddarparwyr hyfforddiant sydd wedi’u cymeradwyo; gwybodaeth am fwy na 70 o gyrsiau e-ddysgu Cyswllt Ffermio a ariennir yn llawn; canllawiau ar gwblhau’r PDP a’r ffurflen gais am gyllid. Bydd angen i unrhyw un sy'n bwriadu gwneud cais am arian i wneud cwrs sy’n ymwneud â defnyddio peiriannau ac offer gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch ar-lein rhad ac am ddim Cyswllt Ffermio yn gyntaf.

Bydd angen i ffermwyr a choedwigwyr sydd eisiau gwneud cais am gyllid ar gyfer hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymgeisio cyfredol nad ydynt eisoes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio wneud hynny drwy gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 erbyn 5 pm dydd Llun 25 Chwefror 2019 fan bellaf.

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth am hyfforddiant, gwasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio a allai fod o fudd i chi a’ch busnes, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol neu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Fel arall, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio  

 
Gwybodaeth gefndirol:


Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Darperir Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Cynghori gan Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu Rhaglen Ddysgu a Datblygu Cydol Oes Cyswllt Ffermio.