Llinos Jones

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn bod Llinos Jones wedi’i phenodi yn Swyddog Prosiect Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin a’i bod bellach wedi dechrau yn ei swydd newydd a chyffrous.

Yn wreiddiol o Benrhyn Llosg, mae Llinos wedi byw yng Nghaerfyrddin ers sawl blwyddyn ar ôl ymuno â Theatrwyo Cymru yn y dref fel Swyddog Cyfranogi. Gweithiodd Llinos hefyd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru fel Asiant Creadigol.

Yn ei rôl newydd yn Yr Egin, bydd Llinos yn gyfrifol am brosiect ymgysylltu creadigol a digidol y ganolfan a fydd yn gweithio gyda gwahanol gymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin.  Ariennir y prosiect drwy gefnogaeth ariannol cronfa LEADER - cronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran y Grŵp Cefn Gwlad ac ariennir y swydd hon yn rhannol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. 

Mae’r Egin yn ganolfan fywiog a byrlymus sy’n gartref i bencadlys S4C yn ogystal â nifer o gwmnïau a sefydliadau sy’n gweithio o fewn y diwydiannau creadigol a digidol.  Mae hefyd yn ganolfan sydd wrth wraidd y gymuned gyfan gan roi cyfleoedd i bobl leol fwynhau'r adeilad a’i holl adnoddau gan gynnwys y caffi, sef Y Gegin; yr awditoriwm, sef y Stiwdio Fach a’r ardal gyhoeddus, sef Y Galon.

Gydag adeilad Yr Egin bellach wedi agor ei ddrysau ers dros flwyddyn, mae’r grant a ddyfarnwyd gan y Grŵp Cefn Gwlad, yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Ganolfan o fewn ystod o grwpiau cymunedol ar draws y sir trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau.  Mae’r prosiect hefyd yn helpu’r Brifysgol i wireddu uchelgais Yr Egin o ran ychwanegu gwerth at yr economi a’r gymuned yn ogystal â datblygu cyfleoedd ymhellach i bobl weithio, cymdeithasu a bod yn greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Fel rhan o’i rôl newydd, bydd Llinos yn ymgysylltu gyda chymunedau, sefydliadau a mudiadau ar draws Sir Gâr gan annog bobl o bob oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau neu i ymwneud ag arlwy Yr Egin.  

“Pwrpas y rôl yw i ymgysylltu efo’r cymunedau yma yn Sir Gâr a rhoi cyfle i bobl ymwneud â’r celfyddydau,” meddai Llinos.  “Boed chi’n berson 80 oed neu’n blentyn 8 oed bydd ‘na gyfleoedd arbennig digidol yma yn Yr Egin.

“Un o’r pethau pwysica’ dwi’n teimlo yw i gyd-weithio gyda mudiadau eraill sydd â’r un bwriad o roi cyfleoedd a chynnig cyfleon i bobl - fel y Mentrau Iaith, ysgolion, colegau, Theatr Genedlaethol, y cwmniau a’r clybiau drama bach sydd gynno ni o gwmpas y lle - a rhoi’r cyfle iddyn nhw ymwneud â’r Ganolfan anhygoel yma,”

Atega Llinos.  

“Mae ‘na gymaint o gyfleon gwych yma, mae’n bwysig bod pawb yn cael y cyfle i’w defnyddio hi.

"Bues i’n gweithio i’r Theatr Genedlaethol fel Swyddog Cyfranogi ac ro’n i hefyd yn gweithio’n llawrydd i Gyngor Celfyddydau Cymru yn gwneud prosiect Ysgolion Creadigol ac ro’n i’n Asiant Creadigol mewn tair ysgol. O’n i’n ‘neud prosiectau gyda merched oedd yn meddwl bod y celfyddydau ddim yn perthyn iddyn nhw a naethon ni greu arddangosfeydd a ballu.  Dwi wedi bod wrthi’n gwneud ‘Diwrnod Cer i Greu’ ers rhai blynyddoedd rwan a chael pobl i ganu ar y stryd ac i greu gwaith celf.  Felly fy mwriad i mewn ffordd ydy bod y celfyddydau i bawb gan ddefnyddio Yr Egin fel yr hedyn bach o syniad a fydd yn blaguro.”

Mae Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin wrth ei bodd yn croesawu Llinos yn rhan o dîm y ganolfan.  

“Ers agor drysau Yr Egin yn mis Hydref 2018 mae'r ganolfan wedi ennill ei phlwyf fel cyrchfan greadigol a chyffrous.  Mae penodi Llinos yn Swyddog Prosiect Ymgysylltu yn golygu bydd modd nawr datblygu ar y seilwaith hyn gan fagu perthynas ystyrlon a tanio egni creadigol ar draws y sir,”

Meddai Carys.

“Daw Llinos a lot fawr o brofiad yn sgîl ei gwaith gyda Theatr Genedlaethol Cymru, fel Asiant Creadigol ar brosiectau addysgiadol ac fel arweinydd clybiau drama niferus. Daw hefyd a lot fawr o syniadau cyffrous ac rwy'n edrych ymlaen i weld rhain yn dwyn ffrwyth. Rydym yn hanner disgwyl ambell i gyfarfod i ymdebygu fel golygfa o "Fo a Fe" ond gan bod Llinos wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin ers 7 mlynedd mae hi'n dda iawn am ddeall yr hwntws ac rydym yn falch iawn i'w chael yn rhan o'r tîm."

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r prosiect neu am sgwrs ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ar gael i fod yn rhan o’r prosiect hwn, cysylltwch â Llinos drwy ebostio llinos.jones@uwtsd.ac.uk