yr olygfa o dirwedd mynyddoedd cambrian

Er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu cymaint o fusnesau twristiaeth o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig COVID-19, mae prosiect Dyfodol Cambrian Future gan Fenter Mynyddoedd Cambria yn parhau i gefnogi busnesau a chymunedau lleol. Wedi’i ariannu trwy’r Rhaglen Arwain LEADER, mae’r prosiect wedi cynnal ei gyswllt gyda chymaint o fusnesau ag sy’n bosibl.

Gyda dros dri chant o gyfranogwyr a bron ugain o gymunedau yn cymryd rhan, mae’r prosiect wedi cyfeirio busnesau tuag at sefydliadau a mudiadau cefnogi, wedi cynorthwyo gydag ymholiadau o ran cefnogaeth ariannol ac wedi creu cyfarfod ZOOM ar draws Mynyddoedd Cambria.

Croesawodd nifer o fusnesau twristiaeth y cyfle i drafod eu hofnau a rhwystredigaethau o ran effaith COVID-19 ar eu busnes ac roedd y cyfarfodydd ZOOM wedi caniatáu i neges glir gael ei chyfleu i swyddogion yr awdurdod lleol ynghyd â chydweithwyr allweddol o fewn Croeso Cymru. Dangosodd adborth o’r cyfarfodydd ZOOM mwyaf diweddar fod y rheini fu’n cymryd rhan wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddod ynghyd fel un llais a bod sylwadau casgliadol wedi cael eu cyfleu i’r prif benderfynwyr. 

Cambrian Futures Postcard

O ystyried COVID-19, anfonodd prosiect Dyfodol Cambrian Futures bron 300 o gardiau post hefyd i fusnesau twristiaeth a phartneriaid y prosiect gyda neges galonogol o obaith ac undod. Aeth nifer o fusnesau ar gyfryngau cymdeithasol i ddweud diolch am y cynnig ystyriol yma. 

 

 

 

 

 

 

Cambrian Futures pocket guide

Gyda’r rhan fwyaf o Fynyddoedd Cambria ‘ar gau’ yn ystod cyfnod y clo mawr, cynhaliodd y prosiect drafodaethau gydag unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gasglu syniadau a gwybodaeth sy’n ymwneud â ‘chanllaw poced’ newydd. Mae’r canllaw ar ei ffordd i’r wasg erbyn hyn ac yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd natur, treftadaeth a llwybrau ym Mynyddoedd Cambria.

Mae pobl o bob cwr o’r ardal wedi cyfrannu at y llawlyfr hwn gan ddynodi’r gwarchodfeydd natur a safleoedd treftadaeth sy’n mynnu cael ymweliad ynghyd â chyflwyno delweddau deniadol sy’n dal y llygad. Edrychwch am gopi o’r canllaw ar wefan y prosiect yn fuan.

 

 

 

View of most popular landscape

Yn ystod cyfnod y clo mawr, cafodd busnesau twristiaeth eu hannog i gael golwg ar lyfrgell o ddelweddau a wnaed ar gael gan dîm y prosiect. Dyma ddelweddau a gasglwyd dros dair blynedd diwethaf y prosiect sy’n cynnwys golygfeydd o’r copaon, llynnoedd, rhaeadrau, dyffrynoedd afonydd a choetiroedd. Y prif asedau naturiol hyn yw’r ‘cysondeb’ yn nhirwedd Mynyddoedd Cambria ac maent yn cael effaith bositif ar fwynhâd ymwelwyr â’r rhanbarth.

Gan wneud y mwyaf o ddoniau lleol, mae’r prosiect wedi sicrhau stoc o recordiadau drôn o Fynyddoedd Cambria y mae’n bwriadu gwneud ffilm fer ohonynt. Mae’r stoc hwn, a ffilmiwyd eisoes cyn cyfnod y clo mawr, yn rhoi amlygrwydd i harddwch ysgytwol yr ardal. Y gobaith yw y bydd busnesau yn defnyddio’r ffilm fer hon i ddenu pobl i ymweld â Mynyddoedd Cambria unwaith eto a gwerthfawrogi pa mor anhygoel yw’r rhan hon o’r byd.

 

screen shot of Cambrian Futures May magazine

Roedd y prosiect wedi parhau’n ffyddlon i’w ymroddiad o gyflwyno pedair erthygl olynol i gylchgrawn EGO a leolir yng Ngheredigion. Roedd effaith COVID-19 wedi golygu mai dim ond fersiynau ar-lein o’r cylchgrawn a gyhoeddwyd. Fodd bynnag, mae’n ymddangos fod bron 500,000 o edrychiadau ar yr erthyglau hyn wedi’i gyflawni hyd yn hyn. Edrychwch ar wefan y prosiect i weld yr erthyglau ar dreftadaeth, llwybrau, natur ac awyr y nos.

Mae’r prosiect nawr yn edrych ymlaen at weithio gyda busnesau a chymunedau i gyflwyno elfen ‘newydd’ Gweithio Gyda’n Gilydd/Working Together o’r cynllun gwaith. Dylai gweithgareddau cyffrous sy’n cynnwys cynhyrchwyr ac adwerthwyr lleol, datblygiad dyfeisgar sy’n ymwneud â mynediad a hamdden ynghyd â chreu adnoddau hyrwyddo amlgyfryngol annog nifer yn y diwydiant twristiaeth a chadarnhau fod Menter Mynyddoedd Cambria yn parhau’n ymroddedig tuag at lewyrch a ffyniant y rhanbarth yn y dyfodol.

Dysgwch mwy am Ddyfodol Cambrian Futures trwy edrych ar  www.thecambrianmountains.co.uk 
#cambrianmountains 
Facebook
Twitter
Instagram