Steora Benches

Heddiw, gosodwyd y meinciau Steora cyntaf yn y DU, mewn tair cymuned yng Nghonwy wledig - Llangernyw, Llanfair Talhaiarn a thref Conwy.  

Mae’r meinciau clyfar yn cael eu pweru gan solar ac yn aml bwrpasol - mae pad gwefru diwifr, pyrth gwefru ar gyfer ffonau (a dyfeisiau clyfar eraill), golau nos, prif reolydd arbed ynni a chasglu data.  

Dywedodd Meira Woosnam, Swyddog Galluogi Gwledig ar gyfer y prosiect Conwy Cynhaliol,

“Bwriad cyllid LEADER yw arbrofi a pheilota syniadau arloesol ac rydym yn falch bod y Grŵp Gweithredu Lleol yma yng Nghonwy wedi cefnogi prosiect sy’n cefnogi ynni adnewyddadwy ac, yn ei dro, yn gwella profiad ymwelwyr”. 

Dywedodd y Cynghorydd Ifor Lloyd, cynrychiolydd Cyngor Cymuned Llanfair, a oedd yn un o’r tri grŵp a fynegodd ddiddordeb yn y cynnig, yn dilyn galwad agored,

“Rydym yn ddiolchgar o’r cyfle i fod yn rhan o’r treial hwn gan ein bod yn datblygu gofod ar gyfer y gymuned a thwristiaid. Gobeithiwn y bydd pobl, boed nhw’n dwristiaid neu’n bobl leol, yn gwneud defnydd o’r dechnoleg y mae’n ei gynnig”.

Bydd y meinciau eu hunain yn casglu data o ran faint o bŵer sydd wedi cael ei greu, faint o’r pŵer hwnnw sydd wedi cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd a faint o’i ddata Wi-Fi sydd wedi cael ei ddefnyddio.

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Cadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Conwy,

“Mae’r meinciau Steora wedi eu creu yng Nghroatia ac yn cael eu cyflenwi’n fyd-eang, ond mae’r prosiect hwn yn darparu’r meinciau Steora cyntaf yn y DU yma yng Nghonwy wledig.  Y nod yw annog pobl i aros am gyfnodau hirach mewn ardaloedd gwledig a chymryd mantais o ynni adnewyddadwy.”