Mae rhan gyntaf cynllun uchelgeisiol Llwybr Dyffryn Tywi bellach ar agor, sef llwybr 16 milltir ar hyd Afon Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.

Mae'r llwybr, sy'n fwy na 750 metr o hyd, yn cysylltu Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili â Bwlch Bach i Fronun, ac yn ymestyn i Felin-wen. Mae'n cynnig golygfeydd prydferth i feicwyr a cherddwyr, gan gynnwys gerddi a phyllau Palas yr Esgob.

Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn un o brosiectau cyfalaf cyffrous Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae wedi cael £128,000 drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Ar ôl iddo gael ei gwblhau, disgwylir i'r prosiect roi hwb o hyd at £2.4 miliwn y flwyddyn i'r economi leol drwy gynyddu twristiaeth a gwariant gan ymwelwyr, sy'n rhan o weledigaeth hirdymor i Sir Gaerfyrddin fod yn Ganolbwynt Beicio Cymru.

Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar draws prosiect cyfan Llwybr Dyffryn Tywi - mae gwaith rhagbaratoi wedi'i gwblhau'n ddiweddar yn ardal maes parcio Pysgotwyr Caerfyrddin a'r Cylch, ac mae trafodaethau am dir yn parhau.
Mae gwaith yn parhau ar gyfer cais cynllunio ar y rhan ddwyreiniol.

Cafodd y tir ar gyfer y rhan gyntaf, sy'n dechrau yn Abergwili, ei gaffael drwy gytundeb caniataol â Llywodraeth Cymru.

Roedd hyn yn cynnwys adeiladu llwybr tri metr o led a maes parcio â 25 o leoedd ger Amgueddfa'r Sir, gan ymestyn tua 750 metr cyn iddo ymuno â'r U2183 o Fwlch Bach i Fronun - sef darn o ffordd sydd wedi'i gwella fel rhan o gynllun Llwybr Dyffryn Tywi gan gynnwys arwyddion, arwyneb a marciau ffordd newydd.

Bydd agoriad y rhan gyntaf yn digwydd ar yr un pryd ag y bydd gwaith adnewyddu sylweddol gwerth £1.25 miliwn yn dechrau yn yr amgueddfa a phrosiect Porth Tywi gwerth £2.4 miliwn er mwyn adfer ac adfywio Parc yr Esgob a hen adeiladau allanol y palas er mwyn creu cyfleuster dysgu, canolfan i ymwelwyr a chaffi.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:

"Mae'n wych gweld bod y rhan gyntaf ar agor yn swyddogol a bod pobl yn mwynhau'r hyn sydd wedi bod yn weledigaeth hirdymor i gefnogi dyheadau'r sir o ran beicio a thrafnidiaeth. Bydd Llwybr Dyffryn Tywi yn darparu llwybr 16 milltir oddi ar y ffyrdd, gan roi'r cyfle i bobl deithio mewn ffordd wahanol rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Gan fod cynnydd da yn cael ei wneud, rydym yn llawn cyffro i weld y prosiect yn cael ei ddatblygu ymhellach."

Ychwanegodd y Cynghorydd Emlyn Dole, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio:

"Mae gan Lwybr Dyffryn Tywi'r potensial i roi hwb sylweddol i'r economi leol, a bydd ein swyddogion yn ceisio gweithio gyda'r busnesau ar hyd y llwybr er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr hyn a gynigir, gan ddarparu swyddi a chyfleusterau newydd i bobl eu defnyddio a'u mwynhau."

Dywedodd Lesley Griffiths, sef y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Rwy'n falch bod y llwybr newydd hwn ar gyfer cerddwyr a beicwyr wedi agor, gan ddarparu cyfle gwych i bobl fynd allan a mwynhau cefn gwlad Sir Gaerfyrddin."