networX – Ysbrydoli Ewrop Wledig
Nod networX oedd cydnabod gwerth rhwydweithio i ddatblygu gwledig, dangos canlyniadau rhwydweithio gwledig dros y deng mlynedd diwethaf ac edrych ar ei ddyfodol mewn modd rhagweithiol. Roedd fformat rhyngweithiol yn rhoi llawer o le ac amser i gyfranogwyr gael trafodaethau anffurfiol a sgyrsiau sy'n ysbrydoli, ac i rannu profiadau, o fewn gwahanol sesiynau'r digwyddiad ac yn y Farchnad, lle roedd 41 stondin yn dangos ehangder rhwydweithio gwledig ledled yr UE ac â gwledydd cyfagos.
Cafodd y digwyddiad ei agor gan Phil Hogan, y Comisiynydd Ewropeaidd dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, a Phrif Lefarydd y Comisiwn Ewropeaidd, Margaritis Schinas, ac roedd y cyfranogwyr yn gallu dilyn chwe thema a oedd yn cynnwys 20 sesiwn ryngweithiol.
Daeth dros 400 o randdeiliaid gwledig at ei gilydd o ledled Ewrop i drafod y chwe thema:
- rôl rhwydweithio ar gyfer polisïau gwledig;
- sut i adeiladu/trawsnewid rhwydwaith;
- rhwydweithio ar gyfer arloesi ym maes amaethyddiaeth ac mewn ardaloedd gwledig;
- rhwydweithio LEADER/CLLD;
- rhwydweithio ar gyfer gwerthuso; ac
- annog rhanddeiliaid i chwarae rôl effeithiol mewn rhwydweithiau.
Cynhaliwyd seremoni derfynol y Gwobrau Ysbrydoli Gwledig yn ystod y digwyddiad hefyd, lle roedd pleidleiswyr yn gallu cymryd rhan mewn pleidlais 'llais y bobl' i ddewis o 25 prosiect a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol, gyda phum prosiect yn ennill y wobr mewn categori penodol.
At ei gilydd roedd y digwyddiad yn nodi'r agweddau mwyaf llwyddiannus ar rwydweithio ar gyfer datblygu gwledig, a ddylai gael ei gryfhau yn y dyfodol, ac yn ysbrydol cyfranogwyr o ledled Ewrop i adeiladu ar eu cyflawniadau a chymryd rhan mewn rhagor o rwydweithio byth. Cafodd y neges i gau'r digwyddiad ei thraddodi gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, Mihail Dumitru.
https://enrd.ec.europa.eu/news-events/events/networx-inspiring-rural-europe_en