Siopa yn saff

Gyda lefelau’r Coronafeirws yn dal yn uchel yng Nghymru, mae Vaughan Gething yn erfyn ar siopwyr a manwerthwyr i wneud eu rhan a chadw pobl yn saff trwy wisgo gorchudd wyneb wrth siopa dan do.

Mae hyn yn ofyn cyfreithiol yng Nghymru i’r rheini sydd ddim wedi cael eu heithrio ac mae’n hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu.

Mae lefelau’r Coronafeirws yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw ran arall o’r DU ac os na fydd yn dechrau gostwng yn y tair wythnos nesaf, bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau i ddod â’r feirws o dan reolaeth.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn erfyn ar bobl yng Nghymru i barchu'r rheolau a'r cyngor diogelwch i atal lledaenu’r coronafeirws ymhellach a rhag i ragor o bobl gael eu taro’n ddifrifol sâl. Mae hyn yn cynnwys gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do fel siopau.

Yn ystod ei ymweliad â Morrisons ym Mae Caerdydd, talodd y Gweinidog deyrnged i staff manwerthu ledled Cymru sydd wedi bod yn arwyr di-glod drwy gydol y pandemig, gan weithio’n galed i fwydo’r wlad.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae'n rhaid i ni i gyd wneud ein rhan i Gadw Cymru'n Ddiogel.

Er ein bod i gyd bellach wedi cael y rhyddid i allu mwynhau bywyd, rhaid i ni barhau i fod yn ofalus wrth siopa a chadw ein hunain, siopwyr eraill, gan gynnwys pobl sy’n glinigol fregus a staff siopau, yn ddiogel.

Er mai brechlynnau yw'r amddiffyniad gorau o hyd yn erbyn y feirws a’n bod yn dal i annog pawb i weithio gartref os medrant, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.

Ac mae'n bwysig cofio nad dewis mo siopa - yn wahanol i daith i'r theatr neu'r dafarn.  Mae llawer o bobl clinigol fregus wedi dweud wrtha’ i eu bod yn teimlo’n anniogel wrth siopa gan nad yw pobl yn gwisgo gorchudd wyneb.  Rwy’n gofyn i bawb fod yn ystyriol o'r bobl hyn a gwneud y peth iawn.

Mae gwisgo gorchudd mewn siopau yn ofyn cyfreithiol i'r rhai sydd heb eu heithrio, ac rwy'n awyddus iawn i dynnu’ch sylw at y pwynt hwnnw yma heddiw. Mae gan fanwerthwyr rôl bwysig o ran lledaenu’r neges hon a sicrhau bod eu siopau'n ddiogel ac mae'n dda gweld y difrifoldeb y mae llawer o siopau, fel Morrisons, yn ei roi i’r mater.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i osgoi cyflwyno rhagor o gyfyngiadau, yn enwedig yn y sector manwerthu wrth i’r Nadolig nesáu. Un ffordd y gallwn i gyd helpu i osgoi hynny yw drwy gadw at y rheolau a mesurau diogelwch sydd eisoes ar waith i’n helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.

Mae staff siopau yn peryglu eu hiechyd eu hunain drwy’r amser drwy ofalu am y cyhoedd bob dydd a rhaid i ni beidio ag anghofio hynny. Daliwch ati i ddangos y parch a’r cwrteisi y mae gweithwyr siopau’n eu haeddu wrth iddyn nhw weithio’n ddiflino i helpu i sicrhau bod siopa yn y cyfnod cyn y Nadolig mor ddymunol, diogel a di-straen ag y gall fod ar adeg brysur iawn.

Mae fy neges i siopwyr yn syml – byddwch saff, byddwch garedig.

Meddai David Scott, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol Morrisons:

Roedd yn bleser cael croesawu Vaughan Gething i'n siop ym Mae Caerdydd. Mae ein gweithwyr yn ein siopau yn gweithio'n galed i sicrhau bod siopa’n brofiad diogel a phleserus. A ninnau ar drothwy’r Nadolig, byddem yn annog cwsmeriaid i barhau i wisgo gorchudd wyneb lle bynnag y bo modd a bod yn ystyriol o eraill.

Dywedodd Sara Jones, Consortiwm Manwerthwyr Cymru:

Mae manwerthwyr a gweithwyr siopau yng Nghymru wedi gweithio'n eithriadol o galed a chyfrifol i gadw cwsmeriaid a chydweithwyr yn ddiogel a chyda digonedd o fwyd gydol y pandemig. Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych, wedi buddsoddi'n sylweddol i wneud eu siopau mor ddiogel ag y gallant fod, ac yn parhau i fynd y tu hwnt i'r mesurau sylfaenol.

Fodd bynnag, mae dyletswydd ar bob siopwr i wneud ei ran, drwy ddilyn rheolau diogelwch siopau a gorchmynion y llywodraeth ar wisgo gorchudd wyneb, a bod yn ystyriol a dangos parch i siopwyr eraill a staff siopau. Drwy wneud hyn, gallwn i gyd fwynhau siopa dros yr ŵyl a chefnogi ein hoff siopau dros yr wythnosau nesaf, gan wybod bod pob ceiniog sy’n cael ei gwario yn y siop yn cynnal swydd leol ac yn cefnogi’r stryd fawr.