20mph

Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi cadarnhau y bydd cynlluniau i leihau'r terfyn cyflymder safonol cenedlaethol yng Nghymru o 30mya i 20mya ar ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac ar strydoedd prysur i gerddwyr, yn rhan o flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni.

Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r newid a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i achub bywydau, i ddiogelu’n cymunedau ac i wella ansawdd bywyd pawb.

Mae cam cyntaf y newid hwn yn cael ei gyflwyno mewn wyth cymuned ledled Cymru eleni er mwyn casglu data a datblygu arferion gorau cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno'n llawn yn 2023. Yn rhan o’r gwaith hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad heddiw er mwyn i bobl gael dweud eu dweud am y newid cyn i'r ddeddfwriaeth angenrheidiol gael ei gosod. Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos ac yn dod i ben ar 30 Medi

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Mae gwneud 20mya yn derfyn cyflymder safonol ar strydoedd prysur i gerddwyr ac mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru yn gam beiddgar a fydd o gryn fudd i bobl.

Nid yn unig y bydd yn achub bywydau, ond bydd hefyd yn helpu i wneud ein strydoedd yn fannau mwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr. Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles corfforol a meddyliol, a bydd llai o gerbydau ar y ffordd yn helpu i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Rydyn ni'n gwybod na fydd y newid hwn yn hawdd - mae'n ymwneud cymaint â newid calonnau a meddyliau ag y mae'n ymwneud â chamau gorfodi caled – ond dros amser, bydd 20mya yn dod yn norm yn union fel y cynlluniau rydyn ni wedi'u cyflwyno o'r blaen, megis newid bagiau siopa, gwahardd ysmygu y tu mewn i fusnesau, a rhoi organau.

Mae pentref Saint-y-brid ym Mro Morgannwg yn un o'r ardaloedd sy'n cymryd rhan yn y cam cyntaf. Mae athrawon a disgyblion yr ysgol gynradd leol wedi croesawu'r datblygiad ac wedi chwarae rhan weithredol yn y broses o gyflwyno’r terfyn newydd.

Dywedodd Duncan Mottram, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Saint-y-brid:

Mae'r ysgol a'r gymuned leol yn falch iawn o gael chwarae rhan mor amlwg yn y fenter gyffrous hon. Bydd lleihau'r terfyn cyflymder ar ein ffyrdd yn eu gwneud yn fwy diogel ac yn helpu hefyd i hyrwyddo mathau amgen, mwy gwyrdd o drafnidiaeth fel cerdded a beicio.

Mae disgyblion wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn o'r dechrau un, gan gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio arwyddion ffyrdd sydd i’w gweld o amgylch y pentref, tra bo grŵp o drigolion lleol hefyd wedi mynegi eu cefnogaeth o'r cychwyn cyntaf.

Rydym yn falch o fod yn un o'r cynlluniau peilot ar gyfer y terfyn cyflymder is newydd hwn ac yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei gyflwyno ledled y wlad.

Cliciwch yma i roi eich barn ar gyfer yr ymgynghoriad