Cronfa refeniw yw’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) a gefnogir drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, ac a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Pwrpas y Gronfa yw gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru:
- i daro’r targed o 10% o dwf a nodir yn Partneriaeth ar Gyfer Twf 2013 – 2020 strategaeth dwristiaeth
- annog cydweithio agosach rhwng partneriaethau masnach i wella’r cynnyrch twristiaeth ac i helpu i dyfu economi twristiaeth Cymru mewn ffordd gynaliadwy
- galluogi'r sector preifat i fanteisio i'r eithaf ar y manteision o alinio gyda'r Flwyddyn Darganfod 2019, y blynyddoedd thematig a Ffordd Cymru
- adlewyrchu bob un neu unrhyw un o'r tair thema allweddol ar gyfer hyrwyddo twristiaeth i Gymru - antur, diwylliant a thirwedd.
Dyma rhai o'r prosiectau a ariennir yn 2018-19:
- Twristiaeth Gogledd Cymru - Ymgyrch Farchnata Integredig o Arfordir i Arfordir
- North Wales Coast Light Railway Co Ltd - Great Little Trains Wales yn Chwifio'r Faner dros Gymru
- Celtic English Academy – Ysbrydoli Japan yng Nghymru
- Howel Food Consultancy Cyf – Canllaw Blas Cambrian Taste
- Twristiaeth y Canolbarth (MWT) - Ffrydio Byw ar Facebook/Teledu Araf
- Small World Theatre Ltd – Taith Cragen, yr Anghenfil o'r Môr
- Yr Eisteddfod Genedlaethol - Carnifal y Môr
- Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru - Cwrs i Hyfforddwyr - tywyswyr bathodynnau glas/gwyrdd
- Pembrokeshire Tourism Ltd – Twristiaeth Cŵn-Gyfeillgar yn Sir Benfro
- National Theatre Wales – The Tide Whisperer
Rhestr llawn yma: