Food and Drink Wales

Mae'r diwydiant bwyd a diod, fel siopau’r stryd fawr, wedi bod yn symud yn raddol o fod yn fusnesau brics a morter at fod yn rhai ar-lein, gyda chynnydd mewn gwasanaethau tecawê a chludo siopa bwyd i bobl. Fodd bynnag, mae'r newid hwn wedi’i gyfyngu ers tro gan y cyfoeth o ddewis o siopau manwerthu sydd ar gael, a bod logisteg y gadwyn gyflenwi wedi’i gyfyngu gan yr elw bychan ar gynnyrch.

Ond nid felly bellach. Oherwydd y cyfnodau clo a chau lleoliadau amgen fel caffis, tafarndai a bwytai, mae’r pandemig Covid-19 wedi cyflymu symudiad y diwydiant tuag at dechnolegau digidol. Mae hyn wedi gorfodi gwelliannau ym mhrofiad y defnyddiwr, ond hefyd wedi arwain at uwchraddio ôl-systemau, dadansoddeg data, ac offer cadwyn gyflenwi.

Mae’r cwmnïau bwyd a diod hynny sydd wedi croesawu technoleg ac wedi llwyddo i wneud y newid i ddigidol wedi dod trwy’r pandemig yn gryfach ac yn fwy darbodus, a chyda llwyfan cadarn ar gyfer twf yn y dyfodol. Mae llawer eisoes wedi troi at Cyflymu Cymru i Fusnesau, sy’n cynnig rhaglen o weithdai a seminarau digidol yn rhad ac am ddim gyda Chynghorwyr Busnes Digidol wrth law i ddarparu cyngor un-i-un a chynlluniau gweithredu personol. Dyma rai o’u straeon.

Gyda chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau, sefydlodd KD's Bake House wefan, rhestriad Google, a sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Mae'n anodd lansio busnes ar y gorau, ond yn ystod digwyddiadau digynsail pandemig gallai deimlo fel achos anobeithiol. Ond mae The Tasteful Cake Company nid yn unig wedi gallu goroesi, maen nhw wedi ffynnu, ac mae’r diolch pennaf am hynny i ymateb chwim y perchennog, Lyn Waddington. Gyda'r siop ar gau yn ystod y pandemig, a chyda phob gŵyl fwyd a phriodas wedi'u canslo, roedd Lyn yn gwybod bod angen iddi droi at werthu ar-lein. Roedd ei busnes eisoes yn defnyddio technolegau o’r fath, ond ychydig iawn o brofiad oedd ganddi o gyrraedd cwsmeriaid ar-lein.

Trwy gofrestru ar gyfer cymorth rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau, mynychodd Lyn weminarau ar y cyfryngau cymdeithasol, optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), marchnata digidol, a rheoli perthynas cwsmeriaid (CRM). Gydag arweiniad ychwanegol gan Gynghorydd Busnes Digidol rhoddodd Lyn hwb i bresenoldeb ar-lein ei chwmni - gan hysbysebu ar Facebook ac Instagram. Gwelodd gynnydd sydyn mewn gwerthiant, gan ddiogelu’r busnes dros y tymor byr a’u gosod mewn sefyllfa dda i ehangu yn y dyfodol.

"O ddefnyddio hyfforddiant TG rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau yn ystod y cyfnod clo," meddai Lyn Waddington, "gallwn ganolbwyntio ar fwrw ymlaen â'm busnes, er gwaethaf yr holl gyfyngiadau ar fasnachu oherwydd Covid. Roedd y sesiynau ar-lein yn ddifyr ac yn cynnwys pecynnau adnoddau ardderchog y gallaf ddychwelyd atynt dro ar ôl tro... Diolch CCiF!"

Symud tuag at dechnolegau digidol oedd achubiaeth KD’s Bake House ym Marchnad Dan Do'r Fenni hefyd. Prynwyd y busnes gan Lukasz Kowalski-Davies fis yn unig cyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 ac, fel pawb arall yn y diwydiant, bu rhaid iddo gau pan gaeodd y farchnad ei drysau.

"Oherwydd cau Neuadd Farchnad y Fenni, a chan nad oeddem wedi cael y cyfle na'r amser i sefydlu perthynas gyda chwsmeriaid, doedden ni ddim yn gallu masnachu rhwng Mawrth 2020 a Mehefin 2020. Ond fel cyfarwyddwr y cwmni, defnyddiais yr amser hwnnw i ddatblygu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac i adeiladu gwefan. Roedd cefnogaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau yn ddefnyddiol iawn trwy gydol y broses honno."

A hwythau heb allu masnachu rhwng Mawrth 2020 a Mehefin 2020, mae KD’s Bake House yn Y Fenni wedi cael llwyddiant mawr trwy symud eu busnes ar-lein.

Gyda chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau llwyddodd Lukasz i sefydlu gwefan, rhestriad Google, a sianeli cyfryngau cymdeithasol craidd, gan alluogi busnes a oedd yn gwbl ddibynnol ar archebion ffôn i symud 30% o'u busnes at archebion ar-lein. 

"Roedd cael gwefan yn ein galluogi i ddangos pwy ydym ni fel cwmni ac yn ein galluogi i arddangos ein holl fara, cacennau a chynhyrchion eraill. Mae'n ei gwneud yn haws i gwsmeriaid ddeall yr hyn rydym yn ei gynnig."

Gellir dadlau bod symud tuag at dechnolegau digidol wedi achub busnes Lukasz mewn cyfnod pan oedd yn amhosibl i fusnesau brics-a-morter fod ar agor. Ar yr un pryd, mae wedi ei alluogi i gysylltu â chwsmeriaid mewn ffordd fwy ystyrlon a rhoi'r becws ar sylfaen gadarn ar gyfer beth bynnag a ddaw wedi’r pandemig.

"Ym mis Rhagfyr 2020, pan fu'n rhaid i lawer o fusnesau gau eto, roedden ni mewn sefyllfa wahanol. Roeddem wedi sefydlu sylfaen cwsmeriaid dda a dulliau gwych o gyfathrebu digidol drwy Facebook Messenger, e-bost, a negeseuon ffôn. Roedden ni’n agor un diwrnod yr wythnos ac yn cynnig gwasanaeth 'archebu a chasglu’ neu’n dosbarthu ein cynnyrch. Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb bresenoldeb y cyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad, rhwng Ionawr 2021 ac Ebrill 2021 cynhyrchwyd dros 90% o'n hincwm gan gwsmeriaid yn archebu ymlaen llaw drwy'r wefan, ar Facebook, ac ar negeseuon testun."