Bydd y Gwerthusiad Opsiynau’n ystyried sut bydd y coleg yn gweithio o safbwynt ymarferol, y lle bydd ei angen ar gyfer adeiladau, ac i gadarnhau’r costau datblygu.
Bydd gofyn ymgysylltiad trwyadl gyda rhanddeiliaid ar gyfer y Gwerthusiad Opsiynau, a bydd gofyn i’r gymuned ddychmygu effaith a’r cyfleoedd o ran trawsnewid Talgarth yn safle dysgu. Bydd nifer o dasgau ynghlwm wrth hyn:
- Asesu faint o addysg y gellir ei darparu tu allan i’r ystafell ddosbarth: hynny yw, ymarfer mapio cynhwysfawr o safleoedd dysgu posib yn y gymuned - o weithdai i ffermydd, creu ynni, ymddiriedolaethau coetir, bwytai, crefftwyr ac ati.
- Dadansoddi pa gyfleoedd dysgu sy’n bodoli, wrth ddatblygu opsiynau safle penodol i’w defnyddio gan y coleg (prentisiaethau a sgiliau galwedigaethol).
- Prif gynllun ar gyfer cymuned Talgarth i ystyried y seilwaith, cysylltiadau, a gwasanaethau presennol a sut gall y coleg weddu i a chyfoethogi’r ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli.
- Cymhariaeth o ran cost/buddion yr opsiynau safle gwahanol o ran y cyfleusterau dysgu sydd eu hangen ochr yn ochr â gofod ar gyfer staff gweinyddu a swyddfeydd.
- Adroddiad ar yr holl agweddau uchod.
Bydd y gwaith cwmpasu’n gyfle ac yn llwyfan i dynnu ynghyd profiadau, adnoddau a doniau’r ardal gyda’r potensial i adeiladu rhywbeth o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£53352.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 3
- Mesur:
-
19.2
- Black Mountains College
Cyswllt:
- Enw:
- Louise Nicholson
- Rhif Ffôn:
-
01597 827 378
- Cyfeiriad e-bost:
- rdp@powys.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts