Cynlluniau Gwledig Presennol

Mae ardaloedd gwledig Cymru yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd Cymru. Yn gyfoethog o ran adnoddau naturiol, maent yn cefnogi ein cymunedau a bywoliaeth ac yn ein helpu i adeiladu economi werdd newydd, gan ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd sy'n ein hwynebu. Rydym yn dibynnu ar ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gyda'i fanteision o ran diogelwch bwyd yng Nghymru ac yn fyd-eang. 

Nod y cyllid hwn yw sicrhau parhad o ran cymorth ar gyfer camau gweithredu pwysig a ariannwyd yn flaenorol drwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE. Mae hyn yn adlewyrchu ein bwriad i gefnogi cyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen fel rhan o'n 10 mlynedd o weithredu ar newid yn yr hinsawdd, er mwyn gallu trosglwyddo i Gymru gryfach, wyrddach a thecach.