Cynlluniau

Mae'r dyraniad cyllid hwn yn ymateb i ddiwedd Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) yr UE, a gaeodd yn 2023. Bydd yn sicrhau cysondeb o ran cefnogaeth ar gyfer camau gweithredu pwysig a gyllidwyd yn flaenorol o dan y RhDG.

Bydd y cyllid, a fydd ar gael i gefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig, yn cael ei ddarparu ar draws chwe thema:

  1. rheoli tir ar raddfa ffermydd; camau ar y fferm i reoli tir mewn ffordd gynaliadwy er mwyn gwella adnoddau naturiol, megis annog ffermwyr i dyfu cnydau sydd o fudd i’r amgylchedd, e.e. cnydau protein
  2. gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd; gan gynnwys gwella effeithlonrwydd o ran tanwydd, porthiant a maetholion, gwneud dulliau’r economi gylchol yn rhan annatod o waith ffermydd, a’u hannog i ddefnyddio ynni adnewyddadwy
  3. effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd; helpu ffermydd i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd, a’u galluogi i greu cyfleoedd i arallgyfeirio’n amaethyddol
  4. rheoli tir ar raddfa’r dirwedd; mynd ati ar raddfa’r dirwedd i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur, drwy gydweithredu ar draws nifer o sectorau
  5. coetiroedd a choedwigaeth; cefnogi’n hymrwymiad i greu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030 a chefnogi'r gwaith o greu strategaeth ddiwydiannol sy'n seiliedig ar bren
  6. cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio; creu diwydiant bwyd a diod cryf a ffyniannus yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol
  7. Cynllun Cynefin Cymru; Bydd cynllun amaeth-amgylcheddol interim yn agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach eleni, dyma amlinelliad o'r cynllun arfaethedig.