LG

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod Bil Amaethyddiaeth cyntaf Cymru erioed wedi cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r Bil yn paratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gefnogi ffermwyr, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a gwarchod a gwella cefn gwlad Cymru, y diwylliant a’r Gymraeg.

Mae'r Bil hefyd yn cynnwys ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud yn llwyr.  Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr.

Mae'r fframwaith polisi ‘Gwnaed yng Nghymru’ cyntaf hwn yn cydnabod amcanion ategol cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ochr yn ochr â gweithredu er mwyn ymateb i argyfyngau'r hinsawdd a natur, cyfrannu at gymunedau gwledig ffyniannus a chadw ffermwyr ar y tir.

Wrth ei wraidd y mae Rheoli Tir yn Gynaliadwy, sy’n sefydlu fframwaith deddfwriaethol a pholisi sydd wedi’i anelu at sicrhau y gall ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd a nwyddau amaethyddol o safon uchel ar gyfer cenedlaethau i ddod.  Mae Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn seiliedig ar bedwar prif amcan, sef cynhyrchu bwydydd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy, lliniaru’r newid hinsawdd ac addasu iddo, cynnal a gwella gwytnwch ein hecosystemau a gwarchod a gwella cefn gwlad a diwylliant Cymru, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso'r defnydd ohoni. 

Bydd y Bil hwn yn cyflwyno amddiffyniad i denantiaid amaethyddol, gan sicrhau nad ydynt yn cael eu cyfyngu'n annheg rhag cael gafael ar gymorth ariannol.

Mae'r Bil yn rhoi'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth yn y dyfodol, gan hefyd sicrhau y gallwn barhau i gefnogi ein ffermwyr yn ystod cyfnod pontio, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae’r Bil hanesyddol hwn ar gyfer Amaethyddiaeth Cymru nid yn unig yn effeithio ar y sector amaeth, ond pawb ledled Cymru, o'r bwyd rydym yn ei fwyta, i sut mae wedi cael ei dyfu, ei gynaeafu, ei storio a'i baratoi i'w werthu. Am y tro cyntaf, mae gennym gyfle i adeiladu system o gymorth a deddfwriaeth sy'n gweithio i'n ffermwyr, ein sector, ein tir a'n pobl.

Mae'n gyfnod anodd a heriol i'n ffermwyr.  Mae newid yn yr hinsawdd, costau cynyddol, cytundebau masnach newydd a'r rhyfel yn Wcráin, yn rhai o'r problemau sy'n eu hwynebu. Mae'r Bil hwn yn rhoi fframwaith ar gyfer darparu’r holl gymorth amaethyddol yn y dyfodol, ac mae’n amlinellu sut y gallwn gadw ffermwyr ar y tir, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a mynd i’r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae’n nodi hefyd sut y bydd Cymru’n mynd ati i fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud. Mae'r dyfeisiau hyn yn dal anifeiliaid yn ddiwahân, gan achosi llawer iawn o ddioddefaint, ac nid ydynt yn gydnaws â'r safonau lles anifeiliaid uchel yr ydym yn ymdrechu drostynt yma yng Nghymru. Gwaharddiad llwyr yw'r unig ffordd ymlaen.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais fraslun o’n Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac mae'r Bil hwn yn rhoi’r fframwaith ar gyfer darparu’r holl gymorth amaethyddol yn y dyfodol. Mae ein harolwg ar gyfer cyd-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar agor tan ddiwedd mis Hydref. Byddwn yn annog cymaint o ffermwyr â phosibl i lenwi’r arolwg, a'n helpu i sicrhau bod ein cynigion yn diwallu eu hanghenion i'r dyfodol.

Rwy’n hynod falch o'n ffermwyr a'r sector amaeth yma yng Nghymru. Drwy'r darpariaethau yn y Bil, rwyf am sicrhau y gallwn barhau i gefnogi ac annog ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr i greu a chynnal sector amaethyddol ffyniannus.”

“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau'r Senedd yn ystod y broses o  ystyried Bil Amaethyddiaeth (Cymru) dros y misoedd nesaf.

Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Medi 2022. Mae copi o'r Bil a'r dogfennau ategol ar gael ar wefan y Senedd.