Farm

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 6 Tachwedd 2023 ac yn cau ar 15 Rhagfyr 2023.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £3 miliwn.

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau yn gynllun cyfalaf wedi'i gynllunio i gefnogi ffermwyr yng Nghymru i wella'r ffordd maent yn rheoli maethynnau ar y fferm, drwy fuddsoddi mewn seilwaith sydd eisoes yn bodoli ar ffermydd. 

Rhoddir cymorth i wahanu dŵr glaw a slyri oddi wrth ardaloedd fel ardaloedd bwydo da byw, ardaloedd casglu da byw, ardaloedd storio tail, storfeydd slyri a storfeydd silwair presennol. 

Yr amcanion yw cynyddu lefelau buddsoddi ar y fferm, gwella perfformiad technegol, a chynyddu effeithlonrwydd cynhyrchu ac effeithlonrwydd adnoddau ar y fferm. 

Mae Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau yn darparu buddsoddiadau cyfalaf ar gyfer offer y nodwyd ymlaen llaw a fydd yn darparu manteision clir a mesuradwy i fentrau fferm yng Nghymru. Mae'r eitemau cyfalaf wedi cael eu pennu, ynghyd â chost safonol ar gyfer pob eitem.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais am y grant hwn yma: https://www.llyw.cymru/grantiau-bach-gorchuddio-iardiau