Flood Management

Mae'r cyfnod ymgeisio wedi agor ar 23 Mai 2022 ac yn cau ar 1 Gorffennaf 2022. Mae cyllideb o £3.0m wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Mae'r Grantiau Bach - Amgylchedd (dŵr) yn rhaglen o waith cyfalaf sydd ar gael i fusnesau ffermio ledled Cymru i gynnal prosiectau i helpu i wella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd – yn gynllun ar wahân i gynlluniau eraill ac yn cynnig uchafswm o £7,500 o gyllid fesul ffenest ar gyfer cynnal Prosiectau Gwaith Cyfalaf.  Mae rhestrau penodol o Waith Cyfalaf ar gael i helpu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol llesol o dan y tair thema ganlynol:

  • carbon
  • dŵr
  • tirwedd a Phryfed Peillio

Bydd rownd hon y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn canolbwyntio ar Ddŵr.

Bydd rheolwyr tir a busnesau ffermio yn cael eu dewis ar gyfer Grantiau Bach - Amgylchedd, ar ôl Datgan Diddordeb wrth Lywodraeth Cymru. Caiff y Datganiad o Ddiddordeb ei sgorio yn ôl ei allu i gyfrannu at gyflawni amcanion thema Grantiau Bach – Amgylchedd. https://llyw.cymru/grantiau-bach-amgylchedd