Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 3 Hydref 2022 ac yn cau ar 11 Tachwedd 2022.
Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £1.3 miliwn.
Mae Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun grant sydd ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cefnogi tyfu a defnyddio cnydau mewn ffordd sy’n gallu arwain at wella perfformiad amgylcheddol busnes fferm.
Amcanion y cynllun yw cefnogi ffermwyr i wneud y canlynol:
- lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
- addasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm yn fwy cadarn.
- gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.
- cyfrannu at wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru.
Mae cnydau a gweithgareddau a gefnogir drwy'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi cael eu nodi ymlaen llaw fel rhai sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r amgylchedd a’r busnes fferm.
Darllenwch y ddogfen rheolau a chanllawiau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.