Mae'r ffenestr Datganiad o Ddiddordeb gyntaf yn agor heddiw (18 Gorffennaf) ac yn cau ar 26 Awst 2022.
Mae'r Cynllun Troi'n Organig yn gynllun cymorth sy'n seiliedig ar arwynebedd sydd ar gael i gynhyrchwyr amaethyddol presennol ledled Cymru sy'n dymuno troi o gynhyrchu confensiynol at gynhyrchu organig.
Drwy gefnogi ffermwyr yn ystod y cyfnod trosglwyddo o ddwy flynedd, nod y cynllun yw darparu cymorth i sicrhau manteision amgylcheddol cadarnhaol o ran rheoli tir. Bydd y Cynllun Troi'n Organig yn gontract 5 mlynedd a ariennir am y ddwy flynedd gyntaf, pan ddylid ennill statws organig llawn.
Bydd y Cynllun Troi'n Organig yn cyfrannu at fynd i'r afael â’r nodau cyffredinol, sef:
- Lleihau allyriadau Carbon a Nwyon Tŷ Gwydr.
- Adeiladu mwy o wytnwch i fusnesau fferm drwy addasu i'r newid hinsawdd.
- Rheoli adnoddau dŵr i wella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.
- Cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd ffermydd a'r gymuned wledig.
- Diogelu a gwella'r dirwedd naturiol a'r amgylchedd hanesyddol.
- Datblygu a gwella bioamrywiaeth frodorol Cymru.