Bees

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd – yn gynllun ar wahân i gynlluniau eraill ac yn cynnig uchafswm o £7,500 o gyllid fesul ffenest ar gyfer cynnal Prosiectau Gwaith Cyfalaf.  Mae rhestrau penodol o Waith Cyfalaf ar gael i helpu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol llesol o dan y tair thema ganlynol:

  • carbon
  • dŵr
  • tirwedd a Phryfed Peillio

Bydd rownd hon y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn canolbwyntio ar Dirwedd a Pheillwyr.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 24 Awst 2022 ac yn cau ar 5 Hydref 2022. Mae cyllideb o £1.5 miliwn wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Mae’r Thema Tirwedd a Phryfed Peillio yn cynnig Prosiectau Gwaith Cyfalaf sydd wedi’u ddewis am eu bod yn dod â budd eang a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i gynnal nodweddion traddodiadol y dirwedd ac yn cysylltu cynefinoedd er lles pryfed peillio. 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ynglŷn â'r cynllun yn y ddau ddolen isod:

  1. https://gov.wales/small-grants-environment-general-rules-booklet-html
  2. https://gov.wales/small-grants-environment