Young trees

Mae Grantiau Bach - Creu Coetir yn gynllun sydd wedi'i anelu at ffermwyr a rheolwyr tir eraill i'w hannog i blannu coetiroedd bach ar dir sydd wedi'i wella'n amaethyddol neu dir isel ei werth amgylcheddol yng Nghymru. 

Mae arian ar gael ar gyfer plannu coed ar hyd cyrsiau dŵr, yng nghorneli caeau neu mewn caeau bach i greu mannau cysgodi stoc, i hybu bioamrywiaeth ac i gynhyrchu tanwydd coed. Cynigir taliad hefyd i gynnal 12 mlynedd o waith Cynnal a Chadw a thaliad premiwm ar gyfer y gwaith plannu newydd. Mae'r broses ymgeisio yn sicrhau bod cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) heb i chi orfod anfon cynllun creu coetir i CNC ar gyfer ei ddilysu. Mae cyllid ar gael ar gyfer plannu lleiniau rhwng 0.1ha ac 1.99ha o faint.

Mae'r cynllun yn cynnig grantiau yn unig i blannu coed ar dir sydd wedi’i nodi fel tir sensitifedd isel ar y Map Cyfleoedd Coetir. Nid yw cynefinoedd uchel eu gwerth na thir uwchlaw llinell derfyn tiroedd sydd wedi'u hamgau a thir comin yn gymwys, oherwyddyr effaith bosibl ar y dirwedd a chymhlethdodau eraill. Dylech gadarnhau bod eich tir yn yr ardal sensitifedd isel cyn mynd ymhellach. Os nad yw, dylech geisio i’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir (WCPS).

Ceir rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais yn y ddau ddolen isod:

  1. https://llyw.cymru/grantiau-bach-creu-coetir
  2. https://llyw.cymru/grantiau-bach-creu-coetir-llyfryn-rheolau-html