Woodland restoration

Mae’r Cynllun Adfer Coetir (WRS) yn seiliedig ar y Cynllun Glastir a oedd yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Gwledig. Y cyllid ar gael i gyfnod y Datganiad o Ddiddordeb (DOD) yw £1 filiwn. Bydd y cyfnod hwn yn agor ar 16 Rhagfyr 2022 ac yn cau am hanner nos ar 2 Chwefror 2023.

Mae’r DOD hwn ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn gallu cwblhau yr holl waith cyfalaf a phlannu erbyn 31 Mawrth 2024.

Cewch gyflwyno DOD yn WRS os oes gennych drwydded cwympo coed, cyfeirnod cais trwydded cwympo neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol sydd yn cynnwys llarwydd.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno y trwydded cwympo, cais am drwydded cwympo gyda rhif cofnodi neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) gyda eich DOD erbyn 2 Chwefror 2023 fan bellaf ar gyfer asesiad gan Llywodraeth Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i ategu unrhyw DOD a gyflwynwyd mewn rownd hanesyddol o GWR. Bydd methiant i wneud hyn yn arwain i’r caeau yn cael eu gwrthod.

Mae WRS yn darparu gwaith cyfalaf ar gyfer ail-blannu, ffensio a gweithgareddau cysylltiedig ar safleoedd lle mae llarwydd a hyd at 50% o rywogaethau nad ydynt yn llarwydd.

Ar gyfer y cyfnod WRS hwn, mae categorïau coetir cymysg wedi'u diweddaru i wneud cymysgedd o rywogaethau mwy amrywiol yn ofynnol. Bydd y % mwyaf o un rhywogaeth yn cael ei leihau i 65% ar gyfer Opsiynau W615, W618 a W619. Mae hyn yn bwysig er mwyn helpu coedwigoedd i ddatblygu gwydnwch i fygythiadau yn y dyfodol, fel clefyd coed. Mae'r newid yn cyd-fynd â'r bwriad i ddiweddaru cynnwys Safon Coedwigaeth y DU, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2023.

I fod yn gymwys am gymorth i ail-blannu eich coetir, bydd rhaid i chi gyflwyno Cynllun Rheoli Coedwig am y safle sydd yn gymwys i’w ail-stocio.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ac sut i neud cais ar gael yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-adfer-coetir