Woodland creation

Fel rhan o’n cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2030. Er mwyn helpu i wneud hyn, mae Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cynllun newydd ar gyfer creu coetiroedd.

Mae’r Grant Creu Coetir yn cynnig arian i ffermwyr a rheolwyr tir i blannu coed a chodi ffensys. Mae yna hefyd daliadau cynnal a chadw a phremiwm i sicrhau bod y coed yn cydio’n llwyddiannus.

Bydd y ffenest ymgeisio gyntaf yn agor ar 30 Awst 2022 ac yn cau ar 14 Hydref 2022 ar gyfer cynnal y gwaith plannu a’r gwaith cyfalaf rydych wedi’u dewis a’u hawlio erbyn 31 Mawrth 2023.

Bydd y cynllun wedi hynny’n agor ar gyfer ceisiadau bob 3 mis. Rhagwelir y bydd y ffenest nesaf yn agor ym mis Rhagfyr 2022 ar gyfer plannu coed yn nhymor plannu 2023/2024. Cewch ymgeisio am y Grant Creu Coetir faint a fynnoch o weithiau ond cewch ond cyflwyno un cais fesul ffenest ymgeisio.

Rhaid plannu coetir cymeradwy ar o leiaf 0.25ha o dir ond nid oes uchafswm.

Mae arian ar gael ar gyfer pedwar categori o goetir. Gallwch hefyd hawlio arian i adeiladu ffens ar gyfradd uwch o £5.56/metr.

Mae cyllideb o £1 miliwn wedi’i dyrannu ar gyfer y ffenest ymgeisio hon.

Bydd angen i chi ystyried a oes yna goed ar gael ichi eu plannu wrth benderfynu a ddylech Ddatgan Diddordeb yn y ffenest hon.

Rhaid i ymgeiswyr sy’n ymgeisio am arian yn y ffenest gyntaf gwblhau eu gwaith plannu a chyfalaf newydd a hawlio ar yr holl waith cyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2022/23 h.y. erbyn 31 Mawrth 2023. Ni fydd estyniadau'n cael eu rhoi y tu hwnt i 31 Mawrth 2023, ac eithrio o dan amgylchiadau prin iawn.

Ceir rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais yn y ddau ddolen isod:

  1. https://llyw.cymru/grant-creu-coetir
  2. https://llyw.cymru/grant-creu-coetir-llyfryn-rheolau-html