Countryside

Bydd y cyfnod ymgeisio yn dechrau ar 10 Hydref 2022 ac yn cau ar 13 Ionawr 2023.

Mae cyllideb o £1.5m wedi’i ddyrannu ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn.

Cynllun grant cyfalaf yw'r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol, sydd ar gael i ffermwyr ym mhob rhan o Gymru. Amcanion y cynllun yw:

  • Helpu i sefydlu mentrau arallgyfeirio amaethyddol hyfyw newydd ar ffermydd
  • Helpu i ddatblygu mentrau gwreiddiol neu arbenigol sy’n bod eisoes
  • Gwneud amaethyddiaeth Cymru yn fwy cydnerth trwy ddatblygu ffrydiau incwm amrywiol
  • Lleihau’r ddibyniaeth ar fentrau amaethyddol traddodiadol
  • Ymateb i gyfleoedd mewn marchnadoedd newydd a datblygu marchnadoedd newydd.

Darllenwch ganllaw a llyfryn rheolau’r cynllun cyn cyflwyno cais.

Mae'r cynllun yn un dewisol. Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i’r buddsoddiad allu mynd yn ei flaen.  Os caiff eich cais ei ddewis, rhaid ichi gwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwaith Cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2024.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar Wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.