Horticulture  Development Scheme

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 4 Ebrill 2022 ac yn cau ar 27 Mai 2022.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £1.5m.

Mae'r cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Nod y cynllun yw:

  • Cynorthwyo cynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol i ddatblygu eu busnesau drwy fuddsoddi mewn cyfarpar a thechnoleg newydd sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r busnes garddwriaethol.
  • Galluogi busnesau garddwriaethol i ehangu cynhyrchiant yn gynaliadwy, arallgyfeirio i dyfu cnydau newydd, gwella effeithlonrwydd cynhyrchu a gwella ansawdd y cynnyrch.
  • Galluogi cynhyrchwyr garddwriaethol i fynd i farchnadoedd newydd. Cynyddu cyflogaeth leol a chefnogi'r economi wledig fel rhan o'r adferiad gwyrdd o Covid-19.

Mae'r cynllun yn ddewisol. Byddai swm y grant a gynigir yn ymwneud ag amgylchiadau unigol, a bydd pob swm yn isafswm angenrheidiol i ganiatáu i'r buddsoddiadau fynd rhagddynt.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/cynllun-datblygau-garthwriaeth-llyfryn-rheolau-cyffredinol