Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 16 Ionawr 2023 ac yn cau ar 24 Chwefror 2023.
Mae cyllideb o £5.0m wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.
Mae’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd – yn gynllun cyfalaf ar gyfer helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol eu busnesau fferm.
Y nodau yw buddsoddi mwy yn y fferm, gwella ei pherfformiad technegol, cynhyrchu yn fwy effeithiol ar y fferm, defnyddio adnoddau ar y fferm yn fwy effeithiol a defnyddio technoleg yn well i wella penderfyniadau rheoli.
Mae’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn cefnogi buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a thechnoleg sydd wedi’u nodi ymlaen llaw fel rhai sy’n cynnig manteision clir a mesuradwy i fusnes eich fferm. Mae’r eitemau cyfalaf a’u cost wedi’u nodi.
Darllenwch ddogfen reolau’r cynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd – a’r canllawiau cyn Datgan Diddordeb.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.