Small Grants – Horticulture Start Up: Window 2

Mae'r broses ymgeisio i’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi’i rhannu’n ddau gam. Yn gyntaf, bydd gofyn ichi Ddatgan Diddordeb. Os caiff eich Datganiad ei ddewis, bydd angen i chi wneud cais llawn.

CLICIWCH YMA i ddod o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais am y cynllun.

Bydd y ffenestr Datgan Diddordeb yn agor ar 11 Ebrill 2023 ac yn cau ar 20 Mai 2023.

Mae cyllideb o £300,000 wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Bydd grant o £3,000 ar gael i bob ymgeisydd.

Mae'r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi'i gynllunio i helpu newydd-ddyfodiaid i'r sector garddwriaeth yng Nghymru drwy annog sefydlu busnesau garddwriaeth masnachol newydd, naill ai fel elfen arallgyfeirio o fewn busnes amaethyddol sy'n bodoli eisoes, neu fel menter newydd annibynnol. Wrth wneud hynny, bydd yn helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o Gymru fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfartal.

Bydd y grant yn annog y defnydd o dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu, yn creu ffrwd incwm mwy amrywiol ar gyfer busnesau fferm yng Nghymru, yn sefydlu mentrau gwledig newydd ac yn creu cyfleoedd gwaith.

Mae'r Grant Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar gael i unigolion neu fusnesau sydd am ymuno â'r sector garddwriaethol masnachol. Dyma nodau'r cynllun:

  • Annog sefydlu busnesau garddwriaethol masnachol newydd drwy gynnig cyllid sbarduno iddynt ar ffurf grant.
  • Lleihau ychydig ar y risg ariannol o fuddsoddi mewn menter newydd.
  • Denu mwy o unigolion i ymuno â'r sector.
  • Annog y defnydd o dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu mewn busnesau garddwriaethol.
  • Creu ffrwd incwm mwy amrywiol ar gyfer busnesau fferm yng Nghymru.
  • Sefydlu busnesau gwledig newydd, fydd yn creu gwaith a chyfleoedd i dyfu ac yn cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy.
  • Ymateb i Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru ac annog cyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.

Bydd angen i ymgeiswyr, sy’n cael eu dewis ar ôl Datgan Diddordeb, brofi bod eu prosiectau'n gynigion ymarferol sydd â'r potensial i ddatblygu'n fusnesau cynaliadwy.

Ar ôl asesu’r ceisiadau, caiff contract ei gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus i’w helpu i ddechrau busnes newydd i blannu cnydau garddwriaethol yng ngwanwyn 2024.  Peidiwch â dechrau ar unrhyw waith tan i chi gael cynnig contract.