Mae'r broses ymgeisio i’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi’i rhannu’n ddau gam. Yn gyntaf, bydd gofyn ichi Ddatgan Diddordeb. Os caiff eich Datganiad ei ddewis, bydd angen i chi wneud cais llawn.
Bydd y ffenestr Datgan Diddordeb yn agor ar 25 Mai 2022 ac yn cau ar 29 Mehefin 2022.
Mae cyllideb o £300,000 wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.
Bydd grant o £3,000 ar gael i bob ymgeisydd.
Mae'r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi'i gynllunio i helpu newydd-ddyfodiaid i'r sector garddwriaeth yng Nghymru drwy annog sefydlu busnesau garddwriaeth masnachol newydd, naill ai fel elfen arallgyfeirio o fewn busnes amaethyddol sy'n bodoli eisoes, neu fel menter newydd annibynnol. Wrth wneud hynny, bydd yn helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o Gymru fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfartal.
Bydd y grant yn annog y defnydd o dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu, yn creu ffrwd incwm mwy amrywiol ar gyfer busnesau fferm yng Nghymru, yn sefydlu mentrau gwledig newydd ac yn creu cyfleoedd gwaith.
Mae'r Grant Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar gael i unigolion neu fusnesau sydd am ymuno â'r sector garddwriaethol masnachol. Dyma nodau'r cynllun:
- annog sefydlu busnesau garddwriaethol masnachol newydd drwy gynnig cyllid sbarduno iddynt ar ffurf grant
- lleihau ychydig ar y risg ariannol o fuddsoddi mewn menter newydd.
- denu mwy o unigolion i ymuno â'r sector
- annog y defnydd o dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu mewn busnesau garddwriaethol
- creu ffrwd incwm mwy amrywiol ar gyfer busnesau fferm yng Nghymru
- sefydlu busnesau gwledig newydd, fydd yn creu gwaith a chyfleoedd i dyfu ac yn cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy
- ymateb i Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru ac annog cyflenwi bwyd lleol yng Nghymru
Bydd angen i ymgeiswyr, sy’n cael eu dewis ar ôl Datgan Diddordeb, brofi bod eu prosiectau'n gynigion ymarferol sydd â'r potensial i ddatblygu'n fusnesau cynaliadwy.
Rhagor o wybodaeth a sut i neud cais yma: https://llyw.cymru/grantiau-bach-dechrau-busnes-garddwriaeth